Gall tanau yn y gweithle achosi niwed difrifol, difrod i
eiddo a hyd yn oed marwolaeth. Mae modd atal y rhan fwyaf o danau, a gall y
rhai sy'n gyfrifol am weithleoedd ac adeiladau eraill y mae gan y cyhoedd
fynediad iddyn nhw osgoi tanau drwy sicrhau bod yr ymddygiad a'r gweithdrefnau
cywir yn cael eu mabwysiadu.
Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i sicrhau
iechyd, diogelwch a lles ei weithwyr ac eraill a allai gael eu heffeithio gan
yr hyn mae'n ei wneud, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Bydd y modiwl e-ddysgu canlynol yn rhoi gwybodaeth
sylfaenol a hyfforddiant i chi, gan sicrhau bod pob aelod o staff yn deall tân
ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau diogelwch tân eu hunain yn eu hadeiladau.
|