Os ydych chi'n ceisio cael mynediad i RCT Source drwy
Ddull Mewngofnodi Untro, ond ei fod yn nodi nad oes gyda chi gyfrif gyda
Moodle, mae'n bosibl bod ambell reswm dros hyn.
1. Mae'r system yn cydnabod bod gyda chi gyfeiriad e-bost
CBSRhCT, ond dydy eich proffil ddim yn weithredol eto. Os ydych chi'n
ddechreuwr newydd, nodwch fod modd iddi gymryd hyd at 2 wythnos i'ch
proffil RCT Source gael ei sefydlu.
2. Mae gennych chi gyfrif ar RCT Source ond mae o dan
gyfeiriad e-bost gwahanol. Rydyn ni'n derbyn ein gwybodaeth ar gyfer creu
proffiliau yn uniongyrchol drwy iTrent, felly os na chawsoch chi gyfeiriad
e-bost CBSRhCT ar unwaith pan ddechreuoch chi, efallai y bydd cyfrif yn cael ei
sefydlu gyda'ch cyfeiriad e-bost personol. Os ydych chi'n meddwl mai dyma'r
broblem, e-bostiwch thesource@rctcbc.gov.uk i newid eich cyfeiriad e-bost ar y cyfrif.
3. Mae eich enw wedi newid a dydy'r system ddim yn
adnabod yr enw newydd oherwydd ei fod yn dal i fod wedi'i gofrestru o dan eich
enw blaenorol. Os felly, bydd angen i chi ofyn i'r garfan ddiwygio hyn drwy
e-bostio The Source yn uniongyrchol - thesource@rctcbc.gov.uk
4. Rydych chi'n ceisio cael mynediad drwy ddull
mewngofnodi untro ond does dim hawl gyda chi i wneud hynny. Dim ond staff
corfforaethol sydd â'r hawl i ddefnyddio'r dull yma, mae angen i chi gael
cyfeiriad e-bost CBSRhCT cyfredol a chael mynediad i'r wefan trwy ddyfais a
roddwyd gan y Cyngor.