Loading
Click if page fails to load
  • Chi yw ein hamddiffyniad olaf!

    Wyddoch chi...


    Mae TGCh a Gwasanaethau Digidol yn atal mwy na 200,000 o ymdrechion i seibrdroseddu yn erbyn y Cyngor bob mis, ond rydych chi’n elfen hanfodol o’n mesurau seibrddiogelwch, ac mae angen eich cymorth chi nawr yn fwy nag erioed…


    Mae'r byd wedi dod yn fwy digidol ac mae'r rhan fwyaf o'n gweithrediadau ni ar-lein. Heddiw mae unigolion a sefydliadau'n wynebu heriau seibr newydd bob dydd, gan amrywio o hacio a noddir gan wladwriaethau i'r twyllwyr seibr a grwpiau troseddau trefniadol ('OCG').  Mae modd i un clic anghywir, cyfrinair gwael neu hyd yn oed gyfrinair a rennir, arwain at atal ein systemau, achosi toriadau mewn diogelwch data a llawer mwy.


    Bydd yr hyfforddiant Seibrddiogelwch yma, sydd wedi’i ardystio gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, yn rhoi gwell ddealltwriaeth i chi ynglŷn â beth yw ystyr gan seibrddiogelwch a bygythiadau seibr, sut mae'r rhain yn cyd-fynd â diogelu data, a sut i sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth sydd ei hangen i ymateb yn briodol os ydych chi'n dod ar draws rhywbeth sy'n amheus.


    Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch cynnwys y modiwl yma, anfonwch e-bost i SwyddfaGwelliannauDigidol@rctcbc.gov.uk a bydd y garfan yn fwy na pharod i helpu gyda'ch ymholiad.


  • Gwybodaeth Bwysig

  • e-Ddysgu

  • Asesiad

    Wedi'i wahardd
  • Tystysgrif

    Wedi'i wahardd