• Gwybodaeth Bwysig

    Mae hyfforddiant Cyber Ninja yn mynd i’r afael ag ystod o arferion gorau y dylid eu rhoi ar waith ym maes seiberddiogelwch er mwyn eich helpu i aros yn ddiogel yn y gwaith ac yn eich bywyd personol. Er ein bod yn cefnogi'r holl ganllawiau a ddarperir, nodwch fod rhai arferion—megis rhaglenni rheoli cyfrineiriau a dull dilysu aml-ffactor—yn cael eu rhoi ar waith mewn modd sydd wedi'i dargedu yn y Cyngor (e.e. dydy’r rhaglen rheoli  cyfrineiriau ddim ar gael yn y gwaith, rydyn ni wedi cynnwys yr wybodaeth yma er gwybodaeth i chi wrth ddefnyddio dyfeisiau personol (nid dyfeisiau’r gwaith). Mae’r dull dilysu aml-ffactor yn cael ei ddefnyddio yn achos cyfrifon gweinyddol yn unig).

     

    Rydyn ni wedi cynnwys y pynciau yma i adlewyrchu safonau'r diwydiant a chodi ymwybyddiaeth o arferion diogelwch sy'n esblygu. Hyd yn oed os nad ydynt nhw'n cael eu rhoi ar waith gan y Cyngor, maen nhw'n cynnig cyngor gwerthfawr—yn enwedig ar gyfer diogelu eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r gwaith. Rydyn ni'n eich annog i ymgysylltu'n llawn â'r hyfforddiant ac ystyried sut y gall yr arferion yma fod o fudd i chi.

     

    Nodwch hefyd bod Modiwl 012 yn cyfeirio at y polisi ar gyfer 'dyfeisiau coll neu sydd wedi'u dwyn'. I weld ein gweithdrefn rhoi gwybod am ddyfeisiau coll neu sydd wedi'u dwyn, cyfeiriwch at  Weithdrefn RhCT ar gyfer rhoi gwybod am achosion/ddigwyddiadau yn ymwneud â Diogelwch Gwybodaeth ar Inform fan hyn.

     

    Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, e-bostiwch carfanseiberddiogelwch@rctcbc.gov.uk