Trosolwg o'r Cwrs
Mae Rheolwr fel Hyfforddwr yn gwrs anachrededig, 7 wythnos o hyd. Byddwch chi’n dysgu’n annibynnol yn bennaf, gyda thri sesiwn grŵp rhithwir yn ymwneud â dysgu egwyddorion hyfforddi a sut y mae modd i chi roi trafodaethau hyfforddi a diwylliant hyfforddi ar waith yn eich gweithle. Bydd dysgwyr hefyd yn cynnal trafodaethau hyfforddi gyda'u carfanau.
Mae modd i unrhyw un mewn swydd rheoli/goruchwylio/arweinydd carfan gofrestru ar y cwrs, ac mae’n rhad ac am ddim.
'Fe wnaeth Gemma nodi’n glir beth oedd nodau ac amcanion y cwrs. Roeddwn i’n gwybod yn union beth oedd yn ddisgwyliedig gennyf i ac roedd strwythur ein sesiynau yn golygu fy mod i'n teimlo’n gyfforddus yn cyfrannu at yr holl drafodaethau. Roeddwn i hefyd yn teimlo bod y gwaith a gafodd ei osod yn ystod yr wythnosau dysgu hunan-gyfeiriedig yn hylaw ac roedd yr adnoddau ychwanegol yn ddefnyddiol iawn.' Dysgwr Blaenorol
Bydd amcanion y cwrs yn cynnwys
- Deall egwyddorion sylfaenol hyfforddi
- Gallu egluro pam bod hyfforddi yn bwysig mewn cyd-destun rheoli fel rheolwr/arweinydd carfan/goruchwyliwr
- Gallu cynnal trafodaeth hyfforddi gydag aelod o staff neu gyd-weithiwr
Bydd y cyfarfodydd grŵp dros Teams yn trafod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu hyd yn hyn, sut mae eich trafodaethau hyfforddi wedi mynd hyd yn hyn, a beth y gallai fod ei angen arnoch wrth symud ymlaen. Bydd digon o drafodaethau yn ogystal â chyfleoedd i ymarfer hyfforddi mewn grwpiau bychain.
Bydd dysgwyr yn cwblhau dysgu hunan-gyfeiriedig ar RCT Source, a fydd yn cynnwys gwylio fideos, gwrando ar bodlediadau a darllen erthyglau. Bydd gofyn i chi gynnal a chadw cofnod o drafodaethau hyfforddi bob wythnos.
Yn dilyn y sesiwn olaf, bydd sesiwn hyfforddi un i un yn cael ei threfnu ar gyfer pob dysgwr i drafod y camau nesaf a rhoi cynllun gweithredu ar waith i ddatblygu ymhellach.
Cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y cwrs yma yw 11 awr, gan gynnwys 1 awr ar gyfer y sesiwn hyfforddi un i un.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn ehangu eich gwybodaeth hyfforddi, bwriwch olwg ar amlinelliad o'r cwrs isod a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, yn ogystal â dyddiadau.
Rhagor o wybodaeth am 'Rheolwr fel Hyfforddwr'