Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, mae tua 75% o'r gweithlu'n fenywod. O'r menywod hyn, mae 46% rhwng 45 a 60 oed, sef yr oedran pontio arferol o'r cyfnod cyn-menopos i'r cyfnod ôl-menopos.
Mae'r menopos yn effeithio arnom ni i gyd, boed hynny'n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol a bydd profiadau pawb yn wahanol. Mae modd iddo gael effeithiau sylweddol ar symptomau a phroblemau iechyd diweddarach. Er gwaethaf hyn, dydy llawer o bobl ddim yn effro i'r effeithiau ac maen nhw wedi drysu ynghylch y symptomau sy'n ymddangos ac am fanteision a risgiau opsiynau triniaeth.Os ydych chi neu eich partner yn mynd trwy'r menopos, neu os ydych chi'n rheolwr/gydweithiwr i rywun sy'n mynd trwy'r cyfnod anodd yma, mae'n hollbwysig eich bod chi'n deall y menopos, ei effaith a sut i gefnogi'r rheini sy'n ei brofi.
Ein gobaith yw y bydd y dudalen wybodaeth yma'n chwarae rhan bwysig wrth godi ymwybyddiaeth o holl symptomau’r menopos a bydd yn annog menywod i ystyried newidiadau i’w ffordd o fyw er mwyn gwella'u hiechyd wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Rydyn ni am i fenywod gael eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus am reoli’r menopos a sicrhau eu bod nhw'n gwybod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw gan eu meddyg teulu, nyrsys Iechyd a Lles Galwedigaethol a chydweithwyr.