Gweminarau Hysbysu ac Ysbrydoli Data Cymru
Mae
Data Cymru hefyd yn cynnal gweminarau rheolaidd yn rhan o'i raglen adeiladu
capasiti. Mae dau brif fath o weminar:
1.
Mae sesiynau Data sy’n Hysbysu yn darparu
trosolwg lefel uchel o bynciau sy’n ymwneud â data, ystadegau ac ymchwil -
gwych os ydych chi eisiau gwella eich dealltwriaeth.
2.
Mae Gweminarau Data sy’n Ysbrydoli yn rhoi
sylw i’r dulliau arloesol ac ysbrydoledig y, mae Data Cymru neu sefydliadau
eraill yn eu defnyddio.
Mae modd i chi gofrestru ar gyfer gweminarau sydd i ddod drwy fynd i TicketSource - maen nhw'n ychwanegu sesiynau newydd bob mis. Os ydych chi’n dymuno cael y newyddion diweddaraf, mae modd i chi ymuno â rhestr bostio 'Hysbysu ac Ysbrydoli' er mwyn sicrhau eich bod chi’n clywed am y gweminarau, cyfleoedd hyfforddi ac achlysuron diweddaraf - cofrestrwch yma.
Maen nhw'n croesawu syniadau newydd hefyd. Os ydych chi wedi defnyddio data mewn ffordd diddorol - neu hyd yn oes os nad oedd yn gwbl lwyddiannus - bydden nhw wrth eu bodd yn clywed gennych chi. Os ydych chi’n awyddus i ddysgu rhagor am bwnc penodol yn ystod sesiwn Data sy’n Ysbrydoli yn y dyfodol - mae croeso mawr i chi gysylltu â nhw.
👉 Cliciwch yma i ddysgu rhagor am achlysuron sydd ar y gweill ac i gofrestru.
