Cyrsiau Hyfforddi Data Cymru
Mae Data Cymru yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti. Caiff pob sesiwn ei chynnal ar-lein dan arweiniad arbenigwyr, felly byddwch chi’n dysgu gan bobl ddeallus iawn. Dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn rhan o’r sesiwn - tua 15 o bobl - felly bydd digon o gyfleoedd i drafod a rhyngweithio.
Os
oes gyda chi ddiddordeb, mae modd i chi gadw lle drwy fynd i TicketSource. Mae modd i chi ddysgu rhagor am fanylion y
cwrs drwy glicio ar y ddolen ‘darllenwch ragor’.
Maen
nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant wedi'i deilwra ar gyfer sefydliadau. Mae modd
trefnu’r sesiynau yma ar gyfer hyd at 20 o bobl a'u cynnal ar amser sy'n gyfleus
i chi. Os oes diddordeb gyda chi, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffonio 029 2090
9500.
