Amlinelliad pwnc

  • Cynhelir ar-lein

     

    Sut  allwch chi ddangos y gwahaniaeth sy'n cael ei wneud gan brosiect, polisi neu wasanaeth? 

    Mae CYBI RhCT, mewn cydweithrediad â DECIPHer, wedi datblygu cyfres o dair gweminar sy'n eich helpu i ddeall, cryfhau a dangos effaith eich gwaith trwy ddefnyddio adnoddau gwerthuso. 

    Rydyn ni'n awgrymu eich bod chi’n cofrestru ar gyfer y tair sesiwn lle bo modd. 

    Cynulleidfa darged 

    Mae’r cwrs yn cael ei anelu at: 

    • Ymarferwyr rheng flaen a swyddogion sy'n darparu gwasanaethau 
    • Rheolwyr ac arweinwyr carfan sydd ynghlwm â gwaith llunio neu wella gwasanaeth 
    • Staff sy'n ysgrifennu ceisiadau am gyllid, achosion busnes, neu adroddiadau gwasanaeth

    • RHAN 1 - Cyflwyniad i werthuso

       

      Gwneud defnydd o werthuso yw’r sesiwn gyntaf. Dyma sesiwn sy'n addas ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r maes ac mae wedi'i llunio i ddatblygu hyder a gallu wrth ddefnyddio Data Mesur Effaith i lywio prosesau gwneud penderfyniadau yn y Cyngor.

      Dysgwch sut i:

      • Ddeall beth yw Data Mesur Effaith
      • Nodi gwahanol fathau o werthuso a phryd i’w defnyddio
      • Adnabod rhagfarnau a chyfyngiadau cyffredin wrth ddefnyddio data gwerthuso

      Dyma'r pynciau a fydd dan sylw:

      • Beth yw gwerthuso a pham y mae'n bwysig?
      • Beth sy'n cyfrif fel Data Mesur Effaith?
      • Mathau o werthuso (y broses, deilliant, economaidd / gwerth am arian)
      • Deall rhagfarn, rhagdybiaethau a chyfyngiadau

      📅 Dyddiad / Amser

      6 Hydref 2026: 9.30 am to 11.30 am

      🌐 Ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg

      Os hoffech chi gael y hyfforddiant yma yn y Gymraeg, e-bostiwch  CYBI@rctcbc.gov.uk

      Lleiafswm o 6 cynrychiolwyr ym mhob sesiwn

       

    • RHAN 2 - Cynllunio'ch gwerthusiad

       

      Mae'r sesiwn yma'n darparu'r sylfaen hanfodol sydd ei angen er mwyn cynnal gwaith gwerthuso ystyrlon trwy nodi a chynnwys cyfranogwyr a rhanddeiliaid allweddol. Mae'n cyflwyno adnoddau a fframweithiau i’ch helpu i ddiffinio'r broblem a'r cyd-destun, disgrifio'ch dull ymyrraeth, a disgrifio sut mae disgwyl i'r newid ddigwydd.

      Mae'r sesiwn yma'n cefnogi cynrychiolwyr i gynllunio gwerthusiad o'u maes gwaith eu hun ac yn cynnig amser yn rhan o'r sesiwn i roi’r adnoddau ymarferol ar waith a gofyn cwestiynau.

      Rydyn ni'n argymell yn gryf i chi fynychu'r sesiwn yma os oes gyda chi ddiddordeb mewn cynnal gwerthusiad. Os nad ydych chi'n gallu disgrifio'r hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud (e.e. eich ymyrraeth), does dim modd i chi ei werthuso!

      Dysgwch sut i:

      • Roi diffiniad clir o broblem sy’n rhan o system gymhleth
      • Nodi rhanddeiliaid i gymryd rhan yn y broses o gyd-gynhyrchu ymyrraeth a gwerthuso
      • Ddiffinio'r ymyrraeth yng nghyd-destun eu gwaith
      • Esbonio'r sail resymegol arweiniol ar gyfer cynnal ymyrraeth gan ddefnyddio theori'r rhaglen
      • Ddisgrifio sut mae disgwyl i ymyrraeth gyflawni newid gan ddefnyddio Modelau Newid

      Dyma'r pynciau a fydd dan sylw:

      • Mapio problemau mewn systemau cymhleth
      • Diffinio ymyraethau gan ddefnyddio rhestr wirio TIDieR
      • Theori'r rhaglen a llwybrau newid
      • Modelau Newid
      • Egwyddorion cyd-gynhyrchu a dulliau cyfranogol

      📅 Dyddiad / Amser

      13 Hydref 2026: 9.30 am to 12.30 pm

    • RHAN 3 - Cynnal eich gwerthusiad

       

      Mae'r sesiwn yma'n cyflwyno cynrychiolwyr i’r elfennau ymarferol sydd ynghlwm â gwerthuso prosesau a deilliannau, gan eu helpu i ddeall sut i asesu a yw’r ymyrraeth wedi'i chyflwyno yn ôl y bwriad ac a yw wedi gwneud gwahaniaeth.

      Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i lunio cwestiynau gwerthuso, nodi dangosyddion deilliannau priodol, ac ystyried gwahanol ddulliau gwerthuso. Mae'r sesiwn hefyd yn pwysleisio sut i ddefnyddio gwahanol rannau o'r  Gacen Dystiolaeth  i ateb cwestiynau gwerthuso a datblygu dealltwriaeth gyflawn o effaith.

      Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y cynrychiolwyr mewn gwell sefyllfa i gynnal a dehongli gwerthusiad mewn modd sy'n cefnogi dysgu, atebolrwydd a gwell prosesau gwneud penderfyniadau.

      Dysgwch sut i:

      • Ddeall pwrpas gwerthuso prosesau a gwerthuso deilliannau
      • Lunio cwestiynau clir ac atebol yn seiliedig ar eu Modelau Newid
      • Nodi dangosyddion deilliannau priodol i fesur newid
      • Ddeall dulliau gwahanol ar gyfer llunio gwerthusiad
      • Ddefnyddio'r Gacen Dystiolaeth i fanteisio ar nifer o ffynonellau tystiolaeth wrth werthuso effaith

      Dyma'r pynciau a fydd dan sylw:

      • Gwerthuso prosesau (gweithredu, dichonoldeb, derbynioldeb)
      • Gwerthuso deilliannau (mesur newid ac effaith)
      • Dangosyddion deilliannau a mesur deilliannau
      • Llunio gwerthusiad a dewis dulliau
      • Defnyddio sawl math o dystiolaeth i ddeall effaith

      📅 Dyddiad / Amser

      20 Hydref 2026: 9.30 am to 12.30 pm

      🌐 Ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg

      Os hoffech chi gael y hyfforddiant yma yn y Gymraeg, e-bostiwch  CYBI@rctcbc.gov.uk

      Lleiafswm o 6 cynrychiolwyr ym mhob sesiwn