Gyffredinol

Dyma rai Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i lywio'ch ffordd trwy RCT Source.


Os dydy'r cwestiwn sydd gyda chi ddim wedi'i nodi isod, mae croeso i chi gysylltu â thesource@rctcbc.gov.uk am arweiniad a chyngor pellach.


This information is also available in English// Mae wybodaeth yma ar gael yn Saesneg: Course: Frequently Asked Questions



      Mae'n dweud nad oes gen i gyfrif gyda Moodle, beth mae hyn yn ei olygu?

      Os ydych chi'n ceisio cael mynediad i RCT Source drwy Ddull Mewngofnodi Untro, ond ei fod yn nodi nad oes gyda chi gyfrif gyda Moodle, mae'n bosibl bod ambell reswm dros hyn.

      1. Mae'r system yn cydnabod bod gyda chi gyfeiriad e-bost CBSRhCT, ond dydy eich proffil ddim yn weithredol eto. Os ydych chi'n ddechreuwr newydd, nodwch fod modd iddi gymryd hyd at 2 wythnos i'ch proffil RCT Source gael ei sefydlu.

      2. Mae gennych chi gyfrif ar RCT Source ond mae o dan gyfeiriad e-bost gwahanol. Rydyn ni'n derbyn ein gwybodaeth ar gyfer creu proffiliau yn uniongyrchol drwy iTrent, felly os na chawsoch chi gyfeiriad e-bost CBSRhCT ar unwaith pan ddechreuoch chi, efallai y bydd cyfrif yn cael ei sefydlu gyda'ch cyfeiriad e-bost personol. Os ydych chi'n meddwl mai dyma'r broblem, e-bostiwch thesource@rctcbc.gov.uk i newid eich cyfeiriad e-bost ar y cyfrif.

      3. Mae eich enw wedi newid a dydy'r system ddim yn adnabod yr enw newydd oherwydd ei fod yn dal i fod wedi'i gofrestru o dan eich enw blaenorol. Os felly, bydd angen i chi ofyn i'r garfan ddiwygio hyn drwy e-bostio The Source yn uniongyrchol - thesource@rctcbc.gov.uk

      4. Rydych chi'n ceisio cael mynediad drwy ddull mewngofnodi untro ond does dim hawl gyda chi i wneud hynny. Dim ond staff corfforaethol sydd â'r hawl i ddefnyddio'r dull yma, mae angen i chi gael cyfeiriad e-bost CBSRhCT cyfredol a chael mynediad i'r wefan trwy ddyfais a roddwyd gan y Cyngor.


        Sut ydw i'n gofyn am estyniad ar gyfer fy nysgu os nad ydw i'n mynd i'w gwblhau cyn y dyddiad cau?Mae gen i broblemau gyda chwrs hyfforddi Gofal Cymdeithasol, gyda phwy ddylwn i gysylltu?