Gyffredinol

Dyma rai Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i lywio'ch ffordd trwy RCT Source.


Os dydy'r cwestiwn sydd gyda chi ddim wedi'i nodi isod, mae croeso i chi gysylltu â thesource@rctcbc.gov.uk am arweiniad a chyngor pellach.


This information is also available in English// Mae wybodaeth yma ar gael yn Saesneg: Course: Frequently Asked Questions



      Sut ydw i'n gofyn am estyniad ar gyfer fy nysgu os nad ydw i'n mynd i'w gwblhau cyn y dyddiad cau?

      Mae modd i chi naill ai wylio'r fideo defnyddiol yma, neu ddarllen cyngor y garfan isod.

      Dewiswch y cwrs rydych chi am ofyn am estyniad ar ei gyfer, yma fe welwch chi ddolen yn nodi "Gofyn am Estyniad" ar frig y dudalen, bydd angen i chi fewngofnodi i allu gweld hyn. Cliciwch ar yr opsiwn yma a chwblhewch yr wybodaeth ofynnol. Yna, bydd eich rheolwr yn cael gwybod am eich cais am estyniad dysgu drwy e-bost a bydd modd iddyn nhw ymateb i roi gwybod a ydych chi wedi cael caniatâd ac estyniad ai peidio. Bydd angen i'ch rheolwr fewngofnodi i dderbyn neu wrthod eich cais. Ar ôl i'ch rheolwr adolygu eich cais, byddwch chi'n derbyn e-bost sy'n cysylltu'n ôl at RCT Source sy'n eich hysbysu o'r penderfyniad. Os cewch chi estyniad, bydd dyddiad cau newydd yn cael ei osod.

      Nodyn i reolwyr: byddwch chi'n derbyn dolen i adolygu'r cais am estyniad dysgu trwy e-bost.  Bydd y ddolen yn mynd â chi i dudalen lle mae modd gwneud cais am estyniad ar RCT Source, lle byddwch chi'n gallu gweld y manylion. Bydd angen i chi fewngofnodi i wneud hyn.  Mewngofnodwch i'r wefan yn gyntaf, yna ewch yn ôl i'r e-bost a gawsoch i ddefnyddio'r ddolen. Mae gan reolwyr ddisgresiwn ynghylch ymestyn dyddiadau cau dysgu ond cofiwch fod angen cwblhau dysgu gorfodol mewn modd amserol am resymau megis polisi, deddfwriaeth a gofynion statudol eraill.

        Dydy fy nghynnydd ar gwrs ddim yn cael ei ddangos yn gywir – sut alla i gywiro hyn?Mae'n dweud nad oes gen i gyfrif gyda Moodle, beth mae hyn yn ei olygu?