Gyffredinol

Dyma rai Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i lywio'ch ffordd trwy RCT Source.


Os dydy'r cwestiwn sydd gyda chi ddim wedi'i nodi isod, mae croeso i chi gysylltu â thesource@rctcbc.gov.uk am arweiniad a chyngor pellach.


This information is also available in English// Mae wybodaeth yma ar gael yn Saesneg: Course: Frequently Asked Questions



      Dydy fy nghynnydd ar gwrs ddim yn cael ei ddangos yn gywir – sut alla i gywiro hyn?

      Mae modd i chi naill ai wylio'r fideo defnyddiol yma, neu ddarllen cyngor y garfan isod.

      Os nad yw'ch cynnydd yn edrych fel y dylai, gallwch chi fynd yn ôl i'r modiwl ei hun a gwirio bar cynnydd y cwrs. Mae modd dod o hyd i'r bar ar frig y dysgu a dadansoddiad o unedau ar yr ochr dde. Os yw darn o'r bar ar goll neu'n ymddangos yn wyn, ni fydd y dysgu yn cael ei farcio fel uned wedi'i gwblhau, sy'n eich atal rhag symud ymlaen o fewn y dysgu neu rhag dangos y cwrs fel wedi'i gwblhau.

      Os dydy'r wybodaeth dal ddim yn ymddangos, mae manylion cyswllt uniongyrchol y garfan gywir ar gael ar dudalen y cwrs ar gyfer y rhan fwyaf o'r modiwlau e-Ddysgu.

      Weithiau efallai y bydd angen amser ychwanegol ar y system i ddiweddaru, fodd bynnag, os ydy’ch cynnydd chi'n dal i ymddangos yn anghyflawn ar ôl cyfnod o 24 awr, cysylltwch â'r ddesg gymorth Learning Pool ar 0345 074 4114.


        A oes gyda fi fynediad at bob polisi ar RCT Source?Sut ydw i'n gofyn am estyniad ar gyfer fy nysgu os nad ydw i'n mynd i'w gwblhau cyn y dyddiad cau?