Mae modd i chi naill ai wylio'r fideo defnyddiol
yma, neu ddarllen cyngor y garfan isod.
Os ydych chi'n gweithio i, neu ar ran Cyngor Bwrdeistref
Sirol Rhondda Cynon Taf (ac eithrio staff addysgu ysgolion), mae modd dod o hyd
i'ch holl Ddysgu Gorfodol trwy glicio'r botwm "Dysgu Gorfodol", sydd
wedi'i leoli ar yr hafan pan fyddwch chi'n mewngofnodi i RCT Source.
Fel arall, mae modd clicio ar y tab "Fy Nysgu"
sydd wedi'i leoli tua ochr dde uchaf y sgrin. Bydd hyn yn mynd â chi i'ch
dangosfwrdd dysgu personol, lle mae modd i chi olrhain eich holl gynnydd.
Os ydych chi'n gweithio mewn ysgol sy’n rhan o Gyngor
Rhondda Cynon Taf neu gyda chyflogwr gwahanol, gallwch chi siarad â'ch Pennaeth
neu Reolwr i ddarganfod pa fath o ddysgu sydd angen i chi ei gwblhau.