Gyffredinol

Dyma rai Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu i lywio'ch ffordd trwy RCT Source.


Os dydy'r cwestiwn sydd gyda chi ddim wedi'i nodi isod, mae croeso i chi gysylltu â thesource@rctcbc.gov.uk am arweiniad a chyngor pellach.


This information is also available in English// Mae wybodaeth yma ar gael yn Saesneg: Course: Frequently Asked Questions



      Mae angen i mi newid fy manylion personol, beth ddylwn i ei wneud?

      Os ydych chi'n bwriadu newid manylion ar y system, fel enwau neu gyfeiriad e-bost ac ati, mae modd e-bostio The Source yn uniongyrchol: thesource@rctcbc.gov.uk. Bydd modd i aelod o'r garfan eich helpu i sicrhau bod yr wybodaeth gywir yn cael ei harddangos ar eich proffil.

      Os ydych chi wedi newid swydd a/neu newid rheolwr, bydd yr wybodaeth yma'n cael ei diweddaru'n awtomatig unwaith y bydd y system yn derbyn yr wybodaeth gywir gan iTrent.


        Rydw i'n rheolwr a bydd aelod newydd o staff yn ymuno â'm carfan, sut alla i sefydlu proffil ar ei gyfer?