Os ydych chi'n rheolwr sy'n croesawu aelod newydd o
staff, bydd angen i chi ystyried y ddau bwynt isod.
1. Os bydd eich aelod newydd o staff ar gyflogres RhCT,
ac ar iTrent, does dim angen i chi wneud dim, bydd yr holl broffiliau'n cael eu
creu'n awtomatig trwy'r broses integreiddio ag iTrent. Rydyn ni'n cynnal
diweddariad wythnosol gydag unrhyw wybodaeth newydd a gawn gan iTrent; bydd
eich aelod newydd o staff wedi'i gynnwys ar un o'r rhestrau yma fel bod modd
sefydlu cyfrif ar ei ran yn awtomatig. Unwaith y bydd proffil ar waith, bydd yr
aelod o staff yn cael e-bost sy'n nodi'r camau nesaf. Mae modd i hyn gymryd hyd
at bythefnos o ddyddiad cychwyn yr aelod newydd o staff.
2. Os nad yw eich aelod newydd o staff yn mynd i fod ar
gyflogres RhCT, ac yn dod o asiantaeth, cwmni allanol, intern ac ati, bydd
angen creu proffil â llaw. I wneud hyn, mae modd i chi gysylltu â
thesource@rctcbc.gov.uk a bydd ffurflen gychwyn defnyddiwr newydd yn cael ei
hanfon atoch i'w chasglu. Ar ôl ei llenwi hi, byddwch yn ei hanfon yn ôl a bydd
aelod o'r garfan yn creu proffil ar y system ar gyfer yr aelod newydd o staff.
Unwaith y bydd proffil ar waith, bydd y defnyddiwr yn cael e-bost i esbonio'r camau
nesaf.
Os ydych chi'n credu y dylai aelod o staff gael proffil
wedi'i greu ond dydy hyn ddim wedi'i gadarnhau eto, mae modd ffonio desg
gymorth Learning Pool ar 0345 074 4114 i wirio hyn a chael y manylion
priodol.