Mae modd i chi naill ai wylio'r fideo defnyddiol
yma, neu ddarllen cyngor y garfan isod.
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol
Rhondda Cynon Taf ac mae gyda chi gyfeiriad e-bost personol RCTCBC.gov.uk, mae
modd i chi fewngofnodi'n awtomatig gan ddefnyddio dull mewngofnodi sengl. Mae
modd gwneud hyn trwy glicio'r botwm "Mewngofnodi" yng nghornel dde
uchaf yr hafan. Bydd hyn yn agor bocs mewngofnodi, lle bydd angen i chi ddewis
yr opsiwn uchaf: 'Os oes gyda chi gyfeiriad e-bost personol Cyngor RhCT a
gliniadur a roddwyd gan y Cyngor'. Yna, byddwch chi'n cael eich mewngofnodi'n
awtomatig, cyn belled â'ch bod yn defnyddio'ch gliniadur a roddwyd gan y Cyngor
ac wedi'ch cysylltu â'r VPN.
Os nad ydych chi'n gweithio i Gyngor RhCT neu heb
gyfeiriad e-bost Cyngor, mae modd gwneud cais i ailosod eich cyfrinair gan
ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gofrestru - Mae modd gwneud hyn drwy
glicio ar y botwm "Mewngofnodi" yng nghornel dde uchaf yr hafan. Bydd
hyn yn cyrchu'r bocs mewngofnodi, dewiswch yr opsiwn "Wedi anghofio'ch enw
defnyddiwr neu gyfrinair?" . Rhaid bod gyda chi'r cyfeiriad e-bost sydd
wedi'i gofrestru gyda RCT Source er mwyn cyrchu'r ddolen sydd wedi'i hanfon i
chi i ailosod eich cyfrinair. Eich
cyfeiriad e-bost personol rydych chi wedi'i roi i'r Cyngor/Adnoddau Dynol i'w
ddefnyddio fydd hwn.
Os ydych chi'n cael trafferth yn defnyddio'r swyddogaeth
ailosod cyfrinair, ffoniwch 0345 074 4114, sef desg gymorth
Learning Pool, a bydd modd i’r swyddogion helpu. Dyma wasanaeth sydd ar gael
bob awr o bob dydd.