Amlinelliad pwnc

  • Hyfforddiant Llythrennedd Data

    Beth yw llythrennedd data?
    Y diffiniad yw: y gallu i archwilio, deall, a chyfathrebu gyda data mewn modd ystyrlon. Gall hyn fod ar lefelau gwahanol: yn dechnegol ac ar lefel uwch, neu ar lefel llawer mwy sylfaenol.

    Rydyn ni i gyd yn defnyddio data/tystiolaeth yn ein bywydau pob dydd, er enghraifft wrth wirio'r tywydd, adolygu amserau trên, archebu gwyliau, ayyb.

    Rydyn ni i gyd yn defnyddio data/tystiolaeth yn ein swyddi ac, wrth ystyried hyfforddiant a datblygiad blaenorol, efallai hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau.

    Isod, mae dau sefydliad hyfforddi sy'n darparu hyfforddiant YN RHAD AC AM DDIM a lefelau gallu gwahanol i bawb gwneud cynnig.

    Gan fod ymrwymiad amser i gwblhau'r hyfforddiant, gofynnwch i'ch rheolwr os gwelwch yn dda.