Cyflwyno'r 'Gacen Dystiolaeth' gyda Chydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf
Dyddiad: 27 Ionawr 2026
Amser: 2:00 YP - 3:00 YP
Format: Online
Noder: Bydd angen arnoch greu cyfrif Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru am ddim cyn cewch chi gofrestru am yr achlysur hwn. Crewch gyfrif gan ddilyn y ddolen hon.
Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon gyda Zoe Lancelott a Rhianydd Davies o Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, Rhondda Cynon Taf. Byddwn yn cael ein cyflwyno i’r ‘Gacen Dystiolaeth’ sef offeryn ymarferol a ddefnyddir i gefnogi adeiladu’r sylfaen dystiolaeth i lywio gwneud penderfyniadau yn lleol ac sy’n cynnig iaith gyffredin ar gyfer trafod ymchwil a thystiolaeth ar draws sectorau, y gellir ei haddasu i ddiwallu anghenion lleol.
Bydd ein siaradwyr hefyd yn eich tywys trwy enghraifft ymarferol o sut mae’r offeryn hwn yn gweithio mewn gwirionedd ac yn helpu i adeiladu diwylliant o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn eu Cyngor.