Amlinelliad pwnc

  • Taflen Gymorth Tystiolaeth Hunanwerthusiad Gwasanaeth

    Adnodd sydd wedi'i gynllunio i gefnogi unrhyw un sy'n cwblhau hunanwerthusiad gwasanaeth ar gyfer eu maes gwasanaeth yw’r Daflen Gymorth (Tystiolaeth) ar gyfer Hunanwerthusiad Gwasanaeth. Mae’r adnodd yma’n  ei gwneud hi'n haws nodi ystod eang o dystiolaeth berthnasol, cael mynediad ati a’i defnyddio.

    Gan ddefnyddio fframwaith y ‘Gacen Dystiolaeth’, mae’r daflen gymorth yma'n eich cefnogi i ystyried sawl math o dystiolaeth - gan gynnwys gwybodaeth broffesiynol, profiad bywyd, data’r boblogaeth, data sefydliadol, data mesur effaith, ac ymchwil academaidd - wrth ymateb i bob cwestiwn yn rhan o’r Hunanwerthusiad Gwasanaeth. Dyma ddogfen excel sy’n cynnwys taflen waith ar gyfer is-gwestiwn penodol yn rhan o’r Hunanwerthusiad Gwasanaeth, gan ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i'r canllawiau a'r adnoddau sydd fwyaf perthnasol i'ch anghenion.

    Mae pob adran o'r daflen gymorth yn cyd-fynd â chwestiwn neu thema benodol yn rhan o’r Hunanwerthusiad Gwasanaeth, gan gynnig cwestiynau myfyriol, enghreifftiau ymarferol a dolenni uniongyrchol i ffynonellau data er mwyn eich tywys chi trwy bob math o dystiolaeth.

    Nod yr adnodd yma yw helpu i sicrhau bod eich hunanasesiad yn gadarn, yn gytbwys, ac yn adlewyrchu'r holl wybodaeth sydd ar gael.

    Nodwch: Canllaw yw’r daflen gymorth yma, nid rhestr gynhwysfawr o'r holl ffynonellau data posibl. Mae wedi'i dylunio i'ch helpu i feddwl yn eang am y dystiolaeth rydych chi'n ei defnyddio ac er mwyn eich helpu chi i fanteisio ar amrywiaeth o ffynonellau.

  • Sesiynau Taro Mewn Tystiolaeth  Hunanwerthusiad Gwasanaeth CYBI 

    Angen cymorth i gwblhau dy dystiolaeth ar gyfer yr Hunanwerthusiad Gwasanaeth? Ymuna ag un o’n sesiynau taro mewn anffurfiol i gael arweiniad ymarferol gyda’r daflen dystiolaeth.

    Sut i archebu lle

    Dewisa ddyddiad ac amser sy’n gyfleus i ti o’r tabl isod a chlicia ‘Cofrestru’ yn y golofn ar yr ochor dde.

    Unwaith ti wedi cofrestru, byddwn ni yn gyrru dolen Teams i ti yn agosach at ddyddiad y sesiwn, fel y gelli di ymuno’n hawdd o dy ddyfais.

    Os mae’n well gen ti, gelli di ymuno drwy’r ddolen Teams fydd yn cael ei rannu ar e-bost cyffredinol ar y diwrnod – ond mae cofrestru yn ein helpu i gynllunio a darparu’r gefnogaeth orau.

  • Cyn i ti fynychu:

       
    • Ymgyfarwydda gyda’r hunanwerthusiad a thempled Y Gacen Dystiolaeth. 
    • Adolyga’r dystiolaeth sydd gen ti ac ystyria sut mae’n ffitio i'r Gacen Dystiolaeth. 
    Beth i'w ddisgwyl:
        
    • Cwestiwn ac ateb agored – Ymuna gydag unrhyw gwestiwn am dy hunanwerthusiad – byddwn yn cynnig cefnogaeth bersonol ac ymarferol i helpu ti symud ymlaen. 
    • Y Gacen Dystiolaeth ar waith – Cefnogaeth ymarferol gyda’r Gacen Dystiolaeth i ddod o hyd i dystiolaeth, ei drefnu a’i flaenoriaethu. Byddwn ni yn dangos enghreifftiau go iawn ac yn dy helpu i weithredu’r fframwaith ar dy hunanwerthusiad. 
    • Cyngor strategol – Sgwrsia gyda’r tîm am sut i alinio dy dystiolaeth gyda gofynion yr hunanwerthusiad a gwneud y mwyaf o’r hyn sydd gen ti yn barod. Byddwn ni yn helpu ti feddwl am beth sy’n ddefnyddiol, beth sydd ar goll, a sut i'w gyflwyno yn effeithiol. 

    Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, cysylltwch â charfan CYBI trwy e-bostio CYBI@rctcbc.gov.uk