Amlinelliad pwnc

  •  
    Pam defnyddio ffynonellau academaidd?

    Mae ffynonellau academaidd yn darparu gwybodaeth gredadwy, seiliedig ar dystiolaeth, sy'n ategu gwneud penderfyniadau gwybodus. Yn wahanol i gynnwys gwe cyffredinol, mae ymchwil academaidd yn:

    • Cael ei adolygu gan gymheiriaid, i sicrhau ansawdd a chywirdeb.
    • Eang, ac yn cynnig dyfnder a dadansoddiad manwl.
    • Ddibynadwy, gan ei fod yn seiliedig ar ddata cadarn a dulliau trylwyr.

    Am beth ydych chi'n gallu defnyddio ymchwil academaidd? 

    Mae defnyddio ffynonellau academaidd yn gallu cryfhau adroddiadau, prosiectau, asesiadau risg a pholisïau gyda thystiolaeth ddibynadwy. 

    Mae ymchwil academaidd yn rhan hanfodol o'r Gacen Dystiolaeth – gan gyflwyno canfyddiadau ymchwil o brifysgolion a sefydliadau sy'n tynnu sylw at arfer da ac yn helpu i lywio gwaith cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau ac ymyriadau lleol.

    •  

      Cyn Chwilio: Wyt ti wedi gwirio’r Catalog Data? 

      Cyn chwilio cronfeydd data academaidd allanol, rydym yn dy annog i archwilio’r Catalog Data os nad wyt ti wedi gwneud yn barod. Mae’r adnodd yma’n cynnwys ystod eang o gronfeydd data, adroddiadau a dangosfyrddau i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Os nad yw’r wybodaeth rwyt ti ei hangen ar gael, gall yr adnoddau ymchwil academaidd isod dy helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ychwanegol o ffynonellau allanol y gelli di ymddiried ynddyn nhw.


      • Adnoddau/Llwyfannau Ymchwil Academidd a sut i gael mynediad atyn nhw
          Adnodd/Llwyfan   Math o fynediad Gorau ar gyfer Dolen
        LinkedIn

        Am ddim (angen cyfrif - mae'n bosibl y bydd angen i chi gysylltu â TGCh er mwyn cael mynediad)

        Rhwydweithio proffesiynol, mynediad am ddim i ymchwil a chysylltu ag academyddion
        LinkedIn
        PubMed Am ddim yn bennaf Ymchwil iechyd a biomeddygol
        PubMed
        Google Scholar Chwilio am ddim  Cwmpas academaidd eang
        Google Scholar
        ScienceDirect Taledig (ambell adnodd am ddim) Papurau gwyddoniaeth a thechnegol
        ScienceDirect
        IEEE Xplore Taledig (ambell adnodd am ddim) Peirianneg a thechnoleg
        IEEE Xplore
        JSTOR Taledig (adnoddau cyfyngedig am ddim) Dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol
        JSTOR
        ResearchGate Am ddim (angen cyfrif) Papurau wedi'u rhannu gan yr awdur
        ResearchGate
        CORE Am ddim Ymchwil mynediad agored
        CORE
        The Conversation Am ddim Sylwebaeth a chrynodebau arbenigol
        The Conversation