Lefel Ganolradd RHAD AC AM DDIM: defnyddio data i gefnogi newid sefydliadol
Cofrestru ar gyfer y cwrs RHAD AC AM DDIM YMA
10 awr o astudiaeth hunan-gyfeiriedig.
Mae angen i sefydliadau newid er mwyn ymateb i heriau newydd, ac nid yw gwneud y newid yn syml.
Mae'r cwrs yma yn trin a thrafod sut i ddefnyddio data i lywio newid yr hoffech chi ei wneud o fewn cyd-destun eich busnes neu sefydliad.
Mae'n edrych ar y math o dystiolaeth y mae modd i chi ei gasglu i lywio eich newid arfaethedig, a sut i werthuso data gyda'r bwriad o'i ddefnyddio yn rhan o'r trawsnewidiad yma.
Yn benodol, byddwch chi'n dysgu am ffynonellau mewnol ac allanol o wybodaeth eilaidd a sut i'w gwerthuso. Byddwch chi hefyd yn trin a thrafod sut i drefnu mynediad at wahanol fathau o wybodaeth mewn cyd-destun gwaith.
Yn olaf, byddwch chi'n cael profiad ymarferol o gasglu a defnyddio ffynonellau gwybodaeth eilaidd yng nghyd-destun ymchwil a chyflwyno’r newid sefydliadol yma.
Er bod y cwrs yn cael i gynnal o safbwynt dod yn ymchwilydd sy’n ymarferydd, bydd yn mynd i'r afael â sawl maes arall y mae modd eu dysgu ohonyn nhw sy'n berthnasol i'r Cyngor.
Bydd y cwrs yma'n cynnwys:
1. Mireinio eich cyfle i newid
2. Datblygu cwestiynau
3. Beth yw data eilaidd?
4. Data eilaidd allanol
5. Manteision a chyfyngiadau data eilaidd
6. Gwerthuso data eilaidd mewnol ac allanol
👉Cliciwch YMA i gael mynediad at y cwrs Prifysgol Agored yma