Lefel gychwynnol RHAD AC AM DDIM: Trin a thrafod data: Graffiau a chrynodebau rhifiadol
Mae'r cwrs yma am ddim – does dim angen cofrestru!
20 awr o astudio hunan-gyfeiriedig
Trin a thrafod data: graffiau a chrynodebau rhifiadol, bydd yn eich cyflwyno i nifer o ffyrdd o gynrychioli data ar ffurf graff ac o ddefnyddio data rhifiadol.
Byddwch chi'n dysgu sut i ddefnyddio siartiau cylch, siartiau bar, histogramau a diagramau gwasgariad.
Byddwch chi hefyd yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o ddulliau crynhoi data a dulliau ar gyfer asesu lleoliad a gwasgariad.
Mae'r cwrs yn trafod:
1. Cyflwyno data
2. Data a chwestiynau
3. Siartiau cylch a siartiau bar
4. Histogramau a diagramau gwasgariad
5. Crynodebau rhifiadol
6. Casgliad
👉Cliciwch YMA i gael mynediad at y cwrs Prifysgol Agored yma