Cefndir Prosiect Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf
Yn 2023 cafodd £5m ei ddyfarnu i'r Cyngor gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (SCYIG) ar gyfer sefydlu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) Mae’n gydweithrediad ffurfiol rhwng Cyngor Rhondda Cynon Taf, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Interlnk Rhondda Cynon Taf ar gyfer newid diwylliant yn y Cyngor er mwyn dod yn fwy gweithredol o ran ymchwil a gwreiddio gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar bob lefel.
Y nod o ran CYBI yw:
Newid y diwylliant yn y Cyngor er mwyn dod i benderfyniadau ar sail tystiolaeth ar bob lefel yn y sefydliad at ddibenion gwella cyfleoedd bywyd trigolion a thorri'r cylch tlodi yn Rhondda Cynon Taf.
Ymhlith y gwaith sydd ynghlwm a CYBI RhCT mae:
- Cael aelodau'r cyhoedd yn rhan o bethau ac ymgysylltu â nhw er mwyn gofalu bod profiad bywyd trigolion yn cael ei ddefnyddio fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau yn y Cyngor o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau’n ymwneud ag iechyd a gwella deilliannau ar gyfer unigolion a chymunedau.
- Rhoi hyfforddiant ar bynciau sy'n ymwneud a thystiolaeth ar gyfer staff.
Gwnewch Newid yn RhCT
Rydyn ni'n falch o gyflwyno gwefan Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf – ein llwyfan digidol newydd sy’n ceisio rhoi ein cymunedau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau lleol.
Mae'r llwyfan yma'n rhan o'n hymrwymiad ehangach drwy'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) i ddatblygu Cyngor mwy cynhwysol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth – un lle mae staff, trigolion a phartneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a gwella cyfleoedd bywyd i bawb.
🔗 Dod yn rhan o bethau
Bwriwch olwg ar wefan Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf heddiw:
Bwriwch olwg ar ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd, rhannu eich syniadau a bwrw golwg ar sut mae mewnbwn y gymuned yn gwneud gwahaniaeth.