To view the data catalogue, click this link👉🔗HDRC Data Catalogue
Amlinelliad pwnc
-
-
As an HDRC, we are on a transformative journey to foster a culture within RCT Council that places research and evidence at the core of its decision-making processes. Our primary aim in doing this is to address the long-standing health inequalities by creating a sustainable infrastructure that empowers staff, citizens, and partners to generate, access, and use evidence effectively.{mlang}Fel CYBI, rydyn ni ar daith trawsffurfiol i feithrin diwylliant o fewn Cyngor RhCT sy’n rhoi ymchwil a thystiolaeth wrth galon ei brosesau gwneud penderfyniadau. Wrth wneud hyn, ein prif nod yw targedu anghyfartaleddau iechyd hir-sefydlog gan greu isadeiledd cynaliadwy sy’n galluogi staff, dinasyddion, a phartneriaid i gynhyrchu, canfod, a defnyddio tystiolaeth yn effeithiol.
Elfen allweddol o’r trawsffurfiad hwn yw canoli data a datblygu ecosystem tystiolaeth gadarn. Yn hanesyddol, er mae RhCT wedi bod yn ddata-gyfoethog, mae’r gallu i drosglwyddo’r data hwn i mewn i fewnwelediadau gweithredol wedi cael ei gyfyngu gan fynediad darniog, ansawdd amrywiol, a diffyg isadeiledd ymchwil. Ein nod yw targedu hyn gan integreiddio tystiolaeth i mewn i Fframwaith Rheoli Perfformiad y Cyngor, alinio ymchwil gyda blaenoriaethau strategol, a meithrin diwylliant lle nad yw data ond yn cael eu casglu – ond yn cael eu defnyddio i lunio polisi a gwasanaethau.
Er mwyn cefnogi hyn, rydyn ni wedi datblygu Catalog Data – adnodd hygyrch sy’n cael ei guradu a’i ddiweddaru’n rheolaidd sy’n dod ynghyd ag ystod eang o setiau data, adroddiadau, dangosfyrddau ac offer. Er ei fod dal yn cael ei ddatblygu, rydyn ni’n bwriadu bod y cronfa yn cynnal y dilynol:
Cefnogi cynllunio strategol ac alinio’r defnydd o data gydag amcanion strategol gan ddarparu data lleol, amserol a pherthnasol sy’n cael eu cysylltu â themâu a blaenoriaethau allweddol yn Cynllun Corfforaethol Cyngor RhCT.
Cefnogi staff i ganfod tystiolaeth wedi’i alinio i rannau penodol o Gacen Dystiolaeth y CYBI, gan sicrhau bod ymchwil a data yn gysylltu’n uniongyrchol i’r penderfynyddion iechyd ehangach.
Galluogi staff a dinasyddion trwy dryloywder a hygyrchedd, gan gefnogi’r datblygiad o lythrennedd ymchwil a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Ymgryfhau asesiadau effaith gan integreiddio data i mewn i werthusiadau cymdeithasol-economaidd a chyfartaledd.
Galluogi cyd-weithio ar draws sectorau gan gynnig mynediad i dystiolaeth wedi’i rhannu ar draws iechyd, addysg, tai, a gwasanaethau cymunedol.
Mae’r cronfa yn cynnwys adnoddau o ffynonellau ein bod ni’n ymddiried ynddyn nhw fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Swyddfa ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol, Awdit Cymru, i enwi dim ond rhai. Mae pob un yn cynnwys metaddata perthnasol gan gynnwys ei bwrpas, ei gwmpas daearyddol a demograffeg, amlder diweddaru, a’i berthnasedd i flaenoriaethau’r CYBI, ayb. – gan sicrhau bod defnyddwyr yn gallu canfod beth sydd ei angen yn gyflym.
Nodwch: Cyfyngir y data Cyngor RhCT-penodol sy’n cael eu cynnwys yn y cronfa ar hyn o bryd i adnoddau sydd ar gael i’r cyhoedd.