Content developed by NIHR Resource Support Services
Trwy wylio'r fideo yma, byddwch chi'n datblygu sgiliau ym meysydd:
Mae'r weminar yma wedi'i chreu er mwyn symleiddio ymgysylltu â’r cyhoedd a'r gymuned, a’u cynnwys, ym maes ymchwil iechyd.
Mae'r sesiwn yn dechrau drwy esbonio'r gwahaniaeth craidd rhwng cynnwys y cyhoedd (ymchwil wedi'i chynnal gyda’r cyhoedd neu gan y cyhoedd), cyfranogiad y cyhoedd (pobl yn cymryd rhan mewn ymchwil fel gwrthrychau), ac ymgysylltu â’r cyhoedd (rhannu gwybodaeth ymchwil â'r cyhoedd).
.
Mae pwyslais allweddol yn cael ei roi ar ddiffiniad cynnwys yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, gan bwysleisio ei fod yn golygu cynnwys y cyhoedd drwy gydol y broses ymchwil, nid dim ond unwaith. Bydd ail hanner y weminar yn cynnwys astudiaethau achos gan ddau gyfrannwr cyhoeddus ac ymchwilydd, gan gynnig enghreifftiau ymarferol o sut y gall cynnwys y cyhoedd mewn ffordd ystyrlon, cydgynhyrchu, a phŵer a rennir arwain at ymchwil fwy effeithiol a mwy priodol yn ddiwylliannol, yn benodol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r siaradwyr yn tynnu sylw’n gyson at bwysigrwydd meithrin perthnasoedd, darparu cymorth cynhwysfawr, defnyddio iaith hygyrch, a chydnabod y profiad bywyd gwerthfawr y mae cyfranwyr cyhoeddus yn ei ddarparu, gan arwain at ragor o ymddiriedaeth ac effaith mewn cymunedau.