Amlinelliad pwnc


  •  Trwy wylio'r fideo yma, byddwch chi'n datblygu sgiliau ym meysydd: 


    Bydd y weminar yma’n cynnig cyflwyniad i ddulliau ymchwil ansoddol, gan ganolbwyntio’n benodol ar eu defnyddio ym maes iechyd y cyhoedd. Mae'r siaradwyr, Charlotte Rothewell a Dr Lauren Hall, yn diffinio ymchwil ansoddol fel ffordd o ddeall cwestiynau 'pam' a 'sut' a thrin a thrafod ystyr, a'i chyferbynnu â dulliau meintiol sy'n canolbwyntio ar fesur. 

    Mae meysydd allweddol sy'n cael eu crybwyll yn cynnwys pwysigrwydd ymchwilansoddol ym maes iechyd y cyhoedd, megis casglu profiadau bywyd, nodi penderfynyddion iechyd, a gwella ymgysylltiad â’r gymuned. 

    Mae'r sesiwn hefyd yn mynd i'r afael ag ystod o ddulliau ansoddol megis astudiaethau achos, ymchwil naratif, ymchwil weithredu ac ethnograffeg, ynghydâ dulliau casglu data megis cyfweliadau, grwpiau ffocws, arsylwadau, dadansoddi data a holiaduron.  

    Yn olaf, mae'r cyflwynwyr yn tynnu sylw at fanteision a heriau dulliau ansoddol mewn lleoliadau iechyd y cyhoedd, gan bwysleisio ystyriaethau moesegol hanfodol megis cydsyniad ar sail gwybodaeth a gallu ymchwilwyr i ystyried aherio eu teimladau eu hunain. 

    GWYLIWCH Y FERSIWN WEDI'I RECORDIO NAWR

     Nodwch: cafodd y cynnwys yma ei ddatblygu gan Wasanaethau Cymorth Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.