Amlinelliad o'r pwnc

  •  

    Cefndir Prosiect Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf

    Yn 2023 cafodd £5m ei ddyfarnu i'r Cyngor gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (SCYIG) ar gyfer sefydlu Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) Mae’n gydweithrediad ffurfiol rhwng Cyngor Rhondda Cynon Taf, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Interlnk Rhondda Cynon Taf ar gyfer newid diwylliant yn y Cyngor er mwyn dod yn fwy gweithredol o ran ymchwil a gwreiddio gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar bob lefel. 

     

    Y nod o ran CYBI yw:

    Newid y diwylliant yn y Cyngor er mwyn dod i benderfyniadau ar sail tystiolaeth ar bob lefel yn y sefydliad at ddibenion gwella cyfleoedd bywyd trigolion a thorri'r cylch tlodi yn Rhondda Cynon Taf. 

     

     

    Ymhlith y gwaith sydd ynghlwm a CYBI RhCT mae:

    • Cael aelodau'r cyhoedd yn rhan o bethau ac ymgysylltu â nhw er mwyn gofalu bod profiad bywyd trigolion yn cael ei ddefnyddio fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau yn y Cyngor o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau’n ymwneud ag iechyd a gwella deilliannau ar gyfer unigolion a chymunedau. 

    • Rhoi hyfforddiant ar bynciau sy'n ymwneud a thystiolaeth ar gyfer staff.