Rydyn ni'n falch o gyflwyno ein Gwefan Cyfathrebu Mewnol ar SharePoint – dyma wefan bwrpasol lle mae modd i staff Rhondda Cynon Taf drin a thrafod, ymgysylltu â, a chyfrannu at waith y Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI).
Mae'r wefan yma wedi'i llunio i gefnogi cyfathrebu cyson â holl staff Cyngor Rhondda Cynon Taf, gan ddarparu man canolog lle mae modd dod o hyd i’r newyddion diweddaraf adnoddau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r CYBI. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth rannu crynodebau tystiolaeth, papurau gwybodaeth, cyfleoedd hyfforddi, a’r newyddion diweddaraf am brosiectau- bwriad hyn yw helpu i sicrhau bod staff yn effro i’r newyddion diweddaraf , yn dod yn rhan o bethau, ac yn gysylltiedig â dull y Cyngor o ran gwella deilliannau ein cymuned, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
🧭 Beth sydd ar y wefan?
- Deall strwythur y CYBI a phwy sy'n rhan ohono, gan gynnwys:
- Y Bwrdd Goruchwylio Strategol
- Grŵp Cyflawni Gweithredol
Bwriwch olwg ar y Wefan Cyfathrebu Mewnol nawr a dysgu sut y mae modd i chi elwa o'n gwasanaethau.
🔗 Gwefan Cyfathrebu Mewnol CYBI Rhondda Cynon Taf