Rydyn ni'n falch o gyflwyno gwefan Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf – ein llwyfan digidol newydd sy’n ceisio rhoi ein cymunedau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau lleol.
Mae'r llwyfan yma'n rhan o'n hymrwymiad ehangach drwy'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) i ddatblygu Cyngor mwy cynhwysol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth – un lle mae staff, trigolion a phartneriaid yn cydweithio i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a gwella cyfleoedd bywyd i bawb.
Beth yw Gwnewch Newid?
Yn rhan o wefan Gwnewch Newid:
🗣️ Mae modd i staff a thrigolion rannu syniadau i wella gwasanaethau a lles y gymuned.
📊 Mae adborth a phrofiad personol yn helpu i lunio polisïau a blaenoriaethau'r Cyngor.
🤝Mae Ymgynghorwyr Profiad Byw a staff yn cydweithio ar brosiectau sy’n mynd i'r afael â’r penderfynyddion iechyd ehangach.
📢 Mae gan bawb lais wrth lunio dyfodol Rhondda Cynon Taf.
Pam fod hyn o bwys?
Mae'r llwyfan yma yn cefnogi gweledigaeth CYBI, sef:- • Gwreiddio ymchwil a thystiolaeth wrth wneud penderfyniadau bob dydd.
- • Meithrin diwylliant o gydgynhyrchu â thrigolion.
- • Datblygu Cyngor sy'n weithredol o ran ymchwil, yn gynhwysol, ac yn rhagweithiol.
Dod yn rhan o bethau
Bwriwch olwg ar wefan Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf heddiw:👉gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk
Bwriwch olwg ar ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd, rhannu eich syniadau a bwrw golwg ar sut mae mewnbwn y gymuned yn gwneud gwahaniaeth.