Gyffredinol
Mae Data Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti. Maen nhw wedi creu cyfres o ganllawiau manwl i gyd-fynd â'r hyfforddiant yma. Mae pob canllaw wedi’i llunio mewn ffordd sy’n cymryd yn ganiataol nad oes gan y darllenydd lawer o brofiad o gyflwyno ystadegau, ystadegau, arolygon neu drefnu a chynnal cylchoedd trafod ac felly’n ‘sylfaenol’ iawn o ran cynnwys ac arddull, a hynny’n fwriadol. Mae pob canllaw ar gael yn Gymraeg ac mae modd eu lawrlwytho am ddim.
👉 Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar y canllawiau a’u lawrlwytho.
Mae Data Cymru yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti. Caiff pob sesiwn ei chynnal ar-lein dan arweiniad arbenigwyr, felly byddwch chi’n dysgu gan bobl ddeallus iawn. Dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn rhan o’r sesiwn - tua 15 o bobl - felly bydd digon o gyfleoedd i drafod a rhyngweithio.
Os oes gyda chi ddiddordeb, mae modd i chi gadw lle drwy fynd i TicketSource. Mae modd i chi ddysgu rhagor am fanylion y cwrs drwy glicio ar y ddolen ‘darllenwch ragor’.
👉 Cliciwch yma er mwyn dysgu rhagor am yr hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd ac i gadw lle.
Maen nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant wedi'i deilwra ar gyfer sefydliadau. Mae modd trefnu’r sesiynau yma ar gyfer hyd at 20 o bobl a'u cynnal ar amser sy'n gyfleus i chi. Os oes diddordeb gyda chi, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru neu ffonio 029 2090 9500.Mae Data Cymru hefyd yn cynnal gweminarau rheolaidd yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti. Mae dau brif fath o weminar:
1. Mae sesiynau Data sy’n Hysbysu yn darparu trosolwg lefel uchel o bynciau sy’n ymwneud â data, ystadegau ac ymchwil - gwych os ydych chi eisiau gwella eich dealltwriaeth.
2. Mae Gweminarau Data sy’n Ysbrydoli yn rhoi sylw i’r dulliau arloesol ac ysbrydoledig y, mae Data Cymru neu sefydliadau eraill yn eu defnyddio.Mae modd i chi gofrestru ar gyfer gweminarau sydd i ddod drwy fynd i TicketSource - maen nhw'n ychwanegu sesiynau newydd bob mis. Os ydych chi’n dymuno cael y newyddion diweddaraf, mae modd i chi ymuno â rhestr bostio 'Hysbysu ac Ysbrydoli' er mwyn sicrhau eich bod chi’n clywed am y gweminarau, cyfleoedd hyfforddi ac achlysuron diweddaraf - cofrestrwch yma.
Maen nhw'n croesawu syniadau newydd hefyd. Os ydych chi wedi defnyddio data mewn ffordd diddorol - neu hyd yn oes os nad oedd yn gwbl lwyddiannus - bydden nhw wrth eu bodd yn clywed gennych chi. Os ydych chi’n awyddus i ddysgu rhagor am bwnc penodol yn ystod sesiwn Data sy’n Ysbrydoli yn y dyfodol - mae croeso mawr i chi gysylltu â nhw.
👉 Cliciwch yma i ddysgu rhagor am achlysuron sydd ar y gweill ac i gofrestru.