Mae'r Garfan Iechyd Galwedigaethol yma i'ch cefnogi chi. Mae bellach modd i chi hunanatgyfeirio yn gyfrinachol at y Garfan Iechyd Galwedigaethol i dderbyn Gwasanaeth Cwnsela neu Ffisiotherapi.
Nodwch, dyw'r gwasanaeth yma ddim ar gyfer cymorth brys. Os bydd argyfwng iechyd meddwl, ffoniwch 111 (GIG). Mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 bob tro neu ewch i'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) agosaf.