Mae Iechyd Galwedigaethol (IG) yn fath arbenigol o feddygaeth sy'n canolbwyntio ar iechyd staff yn y gweithle. Cority yw'r llwyfan ar gyfer anfon atgyfeiriadau at yr Uned Iechyd Galwedigaethol, trefnu apwyntiadau, derbyn adroddiadau (os yw'r cleient yn cydsynio i ryddhau ei adroddiad), a negeseuon i/gan reolwyr a'r Uned Iechyd Galwedigaethol. Pwrpas atgyfeiriad yw asesu ffitrwydd i weithio, adolygu effaith gwaith ar staff, darparu cyngor, gwneud argymhellion i gefnogi staff a rhannu gwybodaeth gyda rheolwr y gweithiwr (dim ond os oes caniatâd i wneud hynny).
Rheolwyr sydd bellach yn gyfrifol am atgyfeirio gweithwyr at yr Uned Iechyd Galwedigaethol pan fo angen.
Mae hyn yn galluogi rheolwyr i reoli absenoldebau salwch a lles eu staff trwy ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, tynnu sylw at drafodaethau a chamau a gymerwyd eisoes a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae hyn yn cyflymu'r broses i sicrhau bod y gweithiwr yn cael y cymorth gorau i'w alluogi i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith.
Erbyn hyn, mae modd i staff hunan-atgyfeirio'n hyderus at yr Uned Iechyd Galwedigaethol. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am hyn isod.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am atgyfeirio at yr Uned Iechyd Galwedigaethol, mae croeso i chi gysylltu â'ch Cynrychiolydd AD neu'r Uned Iechyd Galwedigaethol:
Ffôn:
01443 494003
E-bost: YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk