• GCC

    Mae'r Cyngor yn bartneriaid gyda Gwasanaeth Cyfieithu Cymru (GCC). Dyma'r cyflenwr a ffefrir gan y Cyngor gyfer pob cais cyfieithu (ac eithrio'r Gymraeg, sy'n cael ei thrin yn fewnol).

    Mae GCC yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd proffesiynol wyneb yn wyneb i gyrff y sector cyhoeddus.


    • E-ddysgu GCC:

      Mae GCC wedi llunio sawl modiwl e-ddysgu ar-lein rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth i chi wrth weithio gyda GCC a chyfieithwyr.

      Mae nifer o fodiwlau ar gael, ond argymhellir eich bod chi'n cwblhau y canlynol:


    • Sut i gysylltu â GCC:

      I gysylltu â GCC, ffoniwch: 02920 537555 neu e-bostio: wits@cardiff.gov.uk. Mae modd i chi hefyd fwrw golwg ar wefan GCC.

      Mae staff yn swyddfa GCC rhwng 7am a 10pm, bob diwrnod o'r flwyddyn. Os ydych chi'n ffonio rhwng 10pm a 7am bydd eich galwad yn cael ei drosglwyddo'n awtomatig i wasanaeth tu allan i oriau Gwasanaeth Cyfieithu Cymru. (Nodwch, dylech chi ond ddefnyddio'r gwasanaeth tu allan i'r oriau yma os ydych chi angen cyfieithydd ar unwaith a chyn 7am y diwrnod hwnnw).

      Os ydych am sicrhau archeb o fewn 48 awr, fe'ch cynghorir i ffonio GCC yn hytrach na'u he-bostio, oherwydd efallai na fydd eich ymholiad yn cael ei godi mewn pryd oherwydd nifer y negeseuon e-bost a dderbyniwyd gan GCC.

      Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi ynglŷn â chael mynediad at wasanaethau GCC, bwriwch olwg ar dudalen GCC ar Inform.