Loading
Click if page fails to load
  • Bydd y cwrs yn egluro beth yw'ch cyfrifoldebau o ran diogelu unigolion agored i niwed, yn ogystal â'r gweithdrefnau o ran rhoi gwybod am bryderon, trwy gyfres o fideos byr.


    Mae'r cwrs wedi'i rannu'n bedair adran. Ddylai pob adran ddim cymryd mwy na 15 munud i'w chwblhau.

    • Diogelu
    • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol
    • Caethwasiaeth Fodern
    • Aflonyddwch Rhywiol

    Wedyn, bydd sesiwn fer i wirio'ch gwybodaeth. Rhaid i chi sgorio 60% neu'n uwch i basio. 


    Mae pob adran wedi'i chynnwys o dan y deilsen sydd â'r label cyfatebol. Cliciwch ar y teils fesul un i wylio'r fideos perthnasol.

    Rhaid i chi gwblhau pob adran a phasio'r asesiad 'Gwirio'ch Gwybodaeth' er mwyn i'r cwrs fod wedi'i gwblhau'n llwyr (100%) ar eich cofnod dysgu. 

    Mae modd gadael y cwrs a dychwelyd ato ar unrhyw adeg, bydd eich cynnydd yn cael ei gofnodi. 


    Rhybudd! Efallai y bydd rhai pethau sy'n cael eu trafod yn ystod y cwrs yn peri gofid i chi; os felly, cymerwch egwyl neu ailgydio yn y cwrs ar ddiwrnod arall. Os ydych chi'n wynebu unrhyw ofid neu os ydych chi’n dymuno cael cymorth lles seicolegol cyfrinachol, ffoniwch 0800 023 9387 (Rhaglen Cymorth i Weithwyr VivUp) neu 0808 80 10 800 (Byw Heb Ofn). Fel arall, mae modd i chi hunanatgyfeirio at ein gwasanaethau cwnsela drwy ein Carfan Iechyd Galwedigaethol.


  • Diogelu Plant ac Oedolion

  • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol

  • Caethwasiaeth Fodern

  • Aflonyddwch Rhywiol

  • Gwirio'ch Gwybodaeth

  • Tystysgrif