The RCT Source

Skip to main content
The RCT Source home. The Source
  • Home
    • Home
    • My Learning
      • Programs
      • Certifications
      • Required Learning
    • Calendar
    1. Cymraeg ‎(cy)‎
    2. English ‎(en)‎
  • Guest
The RCT Source home. The Source
  • Home
  • My Learning
    • Programs
    • Certifications
    • Required Learning
  • Calendar

Ymwybyddiaeth o hunanladdiad

  • Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod tua 1 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn trwy hunanladdiad.Gadewch i ni siarad am ymwybyddiaeth hunanladdiad

    Beth sy'n cymell pobl i ddod â'u bywydau i ben?

    Mae meddwl am hunanladdiad yn gymhleth ac yn gallu bod yn ddychrynllyd a dryslyd. Gallan nhw amrywio o gael teimladau cyffredinol am beidio â bod eisiau bod yma mwyach, i wneud cynllun ynglŷn â sut a phryd y gall rhywun ddod â'u bywyd i ben. Yn aml, mae’n ymwneud â theimlo’n anobeithiol, ddim yn gweld dewis arall, ac/neu eisiau’r boen i ddod i ben, yn hytrach nag eisiau marw.

    Does dim un rheswm penodol pam y gallai rhywun fod eisiau dod â'u bywyd i ben, ond mae rhai ffactorau risg sy'n fwy cyffredin. Mae'r rheiny'n cynnwys:

    • Ceisio dod â'u bywyd i ben neu hunan-nieweido'n flaenorol
    • Diweithdra
    • Cyflwr iechyd cofforol hirdymor
    • Byw ar eu pennau eu hunain
    • Bod yn gaeth i sylweddau
    • Problemau iechyd meddwl

    Cofiwch mai ffactorau risg ydy'r rhain. Dyw'r ffaith bod unigolyn yn profi un neu ragor o'r ffactorau yma ddim yn golygu y byddan nhw'n meddwl am hunanladdiad. Yn ogystal â hyn, dydy'r rhestr yma ddim yn gyflawn.

    Mae'n bwysicach nag erioed i fod yn agored a chymryd amser i siarad am ein hiechyd meddwl a sut rydyn ni'n teimlo. 

    Mae modd atal hunanladdiad. Siarad a gofyn a oes angen help yw'r cam cyntaf tuag at helpu. Dechreuwch sgwrs gyda'ch ffrindiau neu'ch cydweithwyr a gofyn sut maen nhw. Os ydych chi'n cael meddyliau neu deimladau am hunanladdiad, rydyn ni'n eich annog chi i wneud apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu, cysylltu â'r Samariaid, neu gysylltu â'r garfan argyfwng yn eich ysbyty lleol. 

    Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall beth yw hunanladdiad a phwysigrwydd atal hunanladdiad.

    Mae nifer o adnoddau wedi'u rhestru isod a all ein helpu a'n cynghori ni

    • Ynglŷn â'r sesiwn

      Ynglŷn â'r sesiwn

      Nod y sesiwn ydy codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad trwy rannu rhywfaint o wybodaeth a thaflu goleuni pellach ar y pwnc, gan gynnwys pwysigrwydd atal hunanladdiad, adnabod arwyddion a symptomau cyffredin, a dysgu ble gallwch chi gyfeirio unrhyw un a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.

      Cliciwch ar y linc i gadw lle ar ein sesiynau ymwybyddiaeth o hunanladdiad



      • Dolenni ac adnoddau defnyddiol

        Dolenni ac adnoddau defnyddiol

        • URL• Taflen 'Dewch i siarad am ... hunanladdiad' URL Opens in a new window.
        • URLRethink - EN URL Opens in a new window.

          Mae Rethink yn darparu gwybodaeth ar sut i gefnogi rhywun sy’n meddwl am hunanladdiad, pa arwyddion i edrych amdanyn nhw a sut i’w helpu. Ewch i'n gwefan i ddod o hyd i fanylion cyswllt defnyddiol.


        • URLCymorth ar sut i gefnogi rhywun sy'n meddwl am hunanladdiad - EN URL Opens in a new window.
        • URLCreu cynllun diogelwch - EN URL Opens in a new window.

          Mae gwefan Staying Safe yn darparu gwybodaeth ar sut i greu cynllun diogelwch, gan gynnwys fideos addysgol a thempledi ar-lein i'ch arwain chi drwy'r broses.


      • MIND

        MIND

        Mae MIND yn darparu cyngor a chymorth i roi'r grym yn nwylo unrhyw berson sy'n dioddef problem iechyd meddwl. Maen nhw'n ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth.

        Yn ôl nhw, “Fyddwn ni ddim yn ildio nes bod pawb sy’n profi problem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth a pharch”.

        “MIND ydyn ni”


        • URLYmgyrchoedd Mind Cymru URL Opens in a new window.
        • URLLles yn y Gweithle yng Nghymru URL Opens in a new window.
        • URLCynllunio ar gyfer argyfwng iechyd meddwl posibl - EN URL Opens in a new window.
        • URLMIND - Triniaeth a chefnogaeth os yw rhywun yn meddwl am hunanladdiad URL Opens in a new window.

          Gwybodaeth - meddwl am hunanladdiad, yr achosion a’r triniaethau posibl gan MIND


      • Y Samariaid

        Y Samariaid

        Mae'r Samariaid yno i'ch helpu chi i ymdopi â'ch sefyllfa. Mae'r llinell gymorth ar agor o fore gwyn tan nos bob diwrnod. Ffôn: 116 123

        Mae'r sefydliad hefyd yn darparu cymorth dros e-bost a thrwy ap y Samariaid.

        Ewch i wefan y Samariaid am ragor o wybodaeth neu dilynwch y dolenni isod.


        • FileAwgrymiadau ar sut i ddod yn wrandäwr gwell - EN File Opens in a new window.

          Awgrymiadau gan y Samariaid ar sut i ddod yn wrandäwr gwell

        • URLStrategaeth 5 mlynedd y Samariaid i fynd i'r afael â hunanladdiad Gwybodaeth os ydych chi'n ei chael hi'n anodd: - EN URL Opens in a new window.

          Arwyddion, cymorth a chefnogaeth gan y Samariaid os ydych chi'n ei chael hi'n anodd


        • URLOs ydych chi'n poeni am rywun arall: - EN URL Opens in a new window.

          Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod rhywun arall ddim yn iawn


      • Cymorth

        Cymorth

        • URLVivup, Rhaglen Cymorth i Weithwyr URL Opens in a new window.

          Llinell ffôn gyfrinachol ar gael 24 awr y dydd, bob dydd ar gyfer cymorth emosiynol yn syth. Ffôn: 0800 023 9387

          Mae modd i Vivup gynnig cymorth cwnsela dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Ewch i'r wefan yma. 

        • FileCymorth Iechyd Galwedigaethol File Opens in a new window.

          Mae modd i chi gysylltu â’r Uned Iechyd a Lles Galwedigaethol:
          Ffôn: 01443 494003
          E-bost:
          YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk.

          Fel arall, mae modd i chi ffonio'r Llinell Gymorth Lles: (01443) 424100 neu e-bostio LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk

        • URLCefnogaeth i'r rheiny sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad - EN URL Opens in a new window.

          Cefnogaeth dros y ffôn, e-bost, grwpiau cymorth ac ar fforymau ar-lein i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad.

        • URLPapyrus a Hopeline URL Opens in a new window.

          Os ydych chi'n meddwl am hunanladdiad neu yn poeni am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad, cysylltwch â HOPELINEUK am gefnogaeth gyfrinachol a chymorth ymarferol

      Skip Ymwybyddiaeth o hunanladdiad

      Ymwybyddiaeth o hunanladdiad

      • Participants

      • Ynglŷn â'r sesiwn

      • Dolenni ac adnoddau defnyddiol

      • MIND

      • Y Samariaid

      • Cymorth

      Skip Upcoming events

      Upcoming events

      Seminar eventBITESIZE Session Bookings
      17 July 2025, 1:00 PM - 3:00 PM (time zone: Europe/London)
      Go to calendar...
      Skip Recent activity

      Recent activity

      Activity since Sunday, 29 June 2025, 2:45 PM
      Go to full activity report

      No recent activity

      Back to top