Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod tua 1 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn trwy hunanladdiad.
Beth sy'n cymell pobl i ddod â'u bywydau i ben?
Mae meddwl am hunanladdiad yn gymhleth ac yn gallu bod yn ddychrynllyd a dryslyd. Gallan nhw amrywio o gael teimladau cyffredinol am beidio â bod eisiau bod yma mwyach, i wneud cynllun ynglŷn â sut a phryd y gall rhywun ddod â'u bywyd i ben. Yn aml, mae’n ymwneud â theimlo’n anobeithiol, ddim yn gweld dewis arall, ac/neu eisiau’r boen i ddod i ben, yn hytrach nag eisiau marw.
Does dim un rheswm penodol pam y gallai rhywun fod eisiau dod â'u bywyd i ben, ond mae rhai ffactorau risg sy'n fwy cyffredin. Mae'r rheiny'n cynnwys:
- Ceisio dod â'u bywyd i ben neu hunan-nieweido'n flaenorol
- Diweithdra
- Cyflwr iechyd cofforol hirdymor
- Byw ar eu pennau eu hunain
- Bod yn gaeth i sylweddau
- Problemau iechyd meddwl
Cofiwch mai ffactorau risg ydy'r rhain. Dyw'r ffaith bod unigolyn yn profi un neu ragor o'r ffactorau yma ddim yn golygu y byddan nhw'n meddwl am hunanladdiad. Yn ogystal â hyn, dydy'r rhestr yma ddim yn gyflawn.
Mae'n bwysicach nag erioed i fod yn agored a chymryd amser i siarad am ein hiechyd meddwl a sut rydyn ni'n teimlo.
Mae modd atal hunanladdiad. Siarad a gofyn a oes angen help yw'r cam cyntaf tuag at helpu. Dechreuwch sgwrs gyda'ch ffrindiau neu'ch cydweithwyr a gofyn sut maen nhw. Os ydych chi'n cael meddyliau neu deimladau am hunanladdiad, rydyn ni'n eich annog chi i wneud apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu, cysylltu â'r Samariaid, neu gysylltu â'r garfan argyfwng yn eich ysbyty lleol.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall beth yw hunanladdiad a phwysigrwydd atal hunanladdiad.
Mae nifer o adnoddau wedi'u rhestru isod a all ein helpu a'n cynghori ni