Mae lles yn fater sy'n cael ei drafod yn fwyfwy aml yn ddiweddar, ond ydyn ni'n gwybod beth mae e'n ei olygu?
Yn syml, lles yw 'The condition of being contented, healthy or successful' - geiriaduron Collins.
Mae lles yn fater goddrychol ac yn unigryw i bawb. Mae pob rhan o'n bywydau ni'n dylanwadu arno, gan gynnwys perthnasoedd, ein hamgylchedd, materion ariannol, cwsg, ymarfer corff, a llawer o ffactorau eraill.
Mae lles yn bwysig gan ei fod e'n gysylltiedig â boddhad bywyd a phan mae pobl yn teimlo boddhad yn eu bywyd, byddan nhw’n gwneud y gorau o bob dydd ac yn dylanwadu'n gadarnhaol ar y rhai o'u cwmpas.
Yn y sesiwn yma byddwn ni'n edrych ar ‘y 5 ffordd at les’ a phwysigrwydd y dulliau yma, yn ogystal ag elfennau ychwanegol o ran lles, gan gynnwys cwsg, deiet, ymarfer corff a materion ariannol.
Byddwn ni'n trafod pam mae'r rhain mor bwysig i'n lles yn gyffredinol, a sut y mae modd i ni eu gwella nhw. Yna byddwn ni'n trafod ac yn rhannu adnoddau sydd ar gael i staff i helpu a chynnal eu lles.