7 i 9 awr – dyna faint o gwsg mae unigolion i fod i'w gael bob nos yn ôl yr argymhelliad. Dyna tua thraean o'n bywyd ni!
Ynghyd â bwyta, yfed, ymarfer corff ac anadlu, mae cysgu yn un o'r hanfodion ar gyfer cynnal iechyd meddwl a chorfforol da. Felly, mae pwysigrwydd cwsg yn amlwg. Ond, dengys arolwg yn 2018 nad yw dros 50% o bobl ledled y byd yn cael digon o gwsg!
Yn RhCT, dangosodd ein canlyniadau Lles gyda Cari i ni fod 63% o staff Cyngor RhCT yn meddwl am y gwaith cyn cwmypo i gysgu.