• Mae'r Cynllun Beicio2Gwaith bellach ar agor.

    Mae'r cynllun Cycle2Work poblogaidd yn cael ei eithrio rhag trethi gan y Llywodraeth a chafodd ei gyflwyno er mwyn annog pobl i deithio i'r gwaith drwy ddull iachach.

    Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymuno â chynllun Cycle2Work Halfords sy'n golygu bod modd i chi brynu beic a chyfarpar diogelwch newydd sbon wrth wneud arbedion gwych o hyd at 32.25% (trethdalwr cyfradd sylfaenol) neu 43.25% (trethdalwr cyfradd uwch) ar feic ac offer diogelwch newydd trwy arbedion Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (“NIC”). 

    Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n arbed arian o'i gymharu â phrynu beic newydd y tu allan i'r cynllun. Yn fwy na hynny, trwy dalu am hyn yn fisol o'ch cyflog, dros gyfnod o 12 mis, prin y byddwch chi'n sylwi ar y gost – dyma beth yw cynllun aberthu cyflog.

    Uchafswm gwerth archeb yr offer beicio a diogelwch yw £2,000 ac mae gan staff sy'n gymwys yr opsiwn o gael beic trwy Halfords neu gan adwerthwr lleol annibynnol, os ydy'r adwerthwr wedi'i gofrestru'n rhan o gynllun Cycle2Work Halfords. Mae modd gweld manylion y manwerthwyr lleol sy'n cymryd rhan ar wefan Cycle2Work.

    Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Buddion Staff RhCT neu e-bostiwch y garfan: BuddionstaffRhCT@rctcbc.gov.uk