Spotlight
Spotlight yw'r rhwydwaith staff ar gyfer Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n angerddol am roi newid ar waith yn eu sefydliadau. Mae'r rhwydwaith yn darparu lle i drafod, cwestiynu, herio a gweithredu lle bo angen i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth hiliol. Rydyn ni'n croesawu pobl o ystod o gefndiroedd ethnig i gyfrannu at drafodaeth ehangach i'n helpu ni â'n cynnydd.
Rydyn ni yma i fod yn eiriolwyr cydraddoldeb mewn perthynas ag amrywiaeth hiliol. Drwy rannu ein profiadau, ein nod yw cyflwyno safbwyntiau newydd a syniadau ffres sy'n helpu i sbarduno newid i sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn groesawgar i bawb.
Egwyddorion ein rhwydwaith yw:
- Lle diogel i rannu ein profiadau
- Effeithio ar newid yn y sefydliad
- Trafod materion cymdeithasol, fel hiliaeth
- Canolbwyntio ar ddatrys y problemau sy'n ein hwynebu
- Dathlu cefndiroedd diwylliannol amrywiol
Am ragor o wybodaeth, neu os ydych chi am ymuno, cysylltwch â equality@rctcbc.gov.uk.