• Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol Rhondda Cynon Taf.

    Mae'r rhwydwaith yn cael ei arwain gan staff niwroamrywiol y Cyngor ac wedi'i gymeradwyo gan Uwch Arweinwyr y Cyngor. Mae wedi cael ei sefydlu er mwyn helpu'r Cyngor ar y daith i dderbyn, amddiffyn a dathlu niwroamrywiaeth yn ei gweithlu.

     

    Bydd y Rhwydwaith yn cynnwys 3 prif ran:

    • Gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchoedd - mae'r rhan yma ar gyfer helpu a chodi ymwybyddiaeth i bob aelod o staff (niwroamrywiol a niwrodebygol). Bydd y grŵp yma'n darparu cyngor a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn niwroamrywiaeth, ond hefyd ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am wybodaeth ar lwybrau cael diagnosis a.y.b. Byddwn ni hefyd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd er mwyn mynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu a gwella'r profiad o weithio i'r Cyngor i bawb
    • Grŵp Cymorth Cyfoedion ar gyfer staff niwroamrywiol - bydd croeso i unrhyw un o weithwyr y Cyngor sydd wedi derbyn diagnosis ffurfiol o niwroamrywiaeth neu ar y llwybr diagnostig (mae hyn yn golygu eu bod wedi cael eu hatgyfeirio ar gyfer asesiad / ar restr aros derbyn diagnosis) ddod i ran yma'r rhwydwaith. Mae'n grŵp caeedig er mwyn darparu amgylchedd unigryw sy'n ddiogel a chyfrinachol i aelodau.
    • Cynorthwyo â busnes sefydliadol y Cyngor - bydd hyn yn golygu bod aelodau'r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol ar gael i eirioli dros staff niwroamrywiol a helpu rheolwyr wrth ddarparu addasiadau rhesymol.

     

    Mae croeso i staff fyddai'n hoffi ymuno â’n Grŵp Cymorth Cyfoedion wneud hynny ar hyn o bryd. Os hoffech chi ymuno â rhan Cymorth Cyfoedion y Rhwydwaith Niwroamrywiol, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, e-bostiwch RhwydwaithNA@rctcbc.gov.uk. Rydyn ni'n cwrdd bob mis ar hyn o bryd, ac mae modd i staff fynychu'r cyfarfodydd yma'n rhan o'u horiau gwaith.

     

    Byddwn ni'n lansio rhannau eraill y rhwydwaith ddechrau 2024.

     

    Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth yn ymwneud ag ymuno â'r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol, e-bostiwch RhwydwaithNA@rctcbc.gov.uk