• Anabledd a Chynhalwyr

    Ydych chi'n gofalu am rywun, er enghraifft rhiant, plentyn, partner neu aelod arall o'r teulu?

    A oes gyda chi anabledd, megis iechyd meddwl gwael, anhawster dysgu, neu anabledd corfforol neu gudd?

    Ydych chi eisiau bod yn rhan o rwydwaith cefnogol o gyfoedion gyda'r nod o gynnwys, rhoi cymorth a sicrhau cydraddoldeb i bob aelod o staff?

     

    Mae'r Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr yn gyfle i wneud gwahaniaeth a chael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr eraill sydd ag anabledd neu gyfrifoldebau gofalu. Mae croeso i unrhyw un sydd ag anabledd, gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl, neu sydd â chyfrifoldebau gofalu, ymuno.

    Yn rhan o'r rhwydwaith, byddwch chi'n cael cymorth gan aelodau eraill o staff, yn cael gwybod am y cymorth sydd ar gael i chi, ac yn helpu i gynghori'r Cyngor ar sut i wella ansawdd bywyd gwaith cynhalwyr ac unigolion anabl.

    I gael rhagor o wybodaeth, neu os ydych chi am ymuno, cysylltwch â cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.