RHAID i bob aelod o staff sy'n gweithio ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf gwblhau'r modiwlau Addysg Orfodol.
Mae modd i chi ddod o hyd i'r modiwlau addysg mae angen i chi eu cwblhau yn yr adran 'Your Required Learning' uchod. Fel arall, mae dewislen yn nodi dolenni at y modiwlau gorfodol i'w gweld isod. Os ydy rhywun wedi gofyn i chi gwblhau cwrs gorfodol a does gyda chi ddim mynediad at y modiwl, e-bostiwch thesource@rctcbc.gov.uk.
Waeth beth yw eich swydd, mae'r modiwlau yma’n hanfodol o ran darparu dealltwriaeth o'r disgwyliadau a chyfrifoldebau sydd gyda chi a chithau'n gweithio i'r Cyngor.
Bydd y modiwlau yn helpu i gynyddu eich ymwybyddiaeth o faterion pwysig a helpu i'ch diogelu chi rhag arfer wael - er enghraifft, rydyn ni'n mynd i'r afael â sut i drin gwybodaeth gyfrinachol/sensitif, yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelu unigolion sy'n agored i niwed ac yn nodi sut mae modd i ni sicrhau gweithle sy'n gynhwysol.
Trwy gwblhau'r modiwlau addysg orfodol a datblygu eich ymwybyddiaeth, byddwch chi'n cyfrannu'n uniongyrchol at redeg gwasanaethau'r Cyngor mewn modd gwell a mwy diogel ar ran ein trigolion.
Mae'r modiwlau yn
cynnwys gwybodaeth am y Cyngor yn ei gyfanrwydd ac mae rhai yn ymwneud â
Llywodraeth Cymru. Mae rhai o'r cyrsiau yn cael eu cynnal yn rhan o Achrediad,
gan olygu bod angen i chi loywi'r hyfforddiant ar adegau penodol. Mae modd dod
o hyd i ragor o wybodaeth ar bob cwrs.
Nodwch - efallai bydd y rhestr yn cael ei diwygio dros amser ac y caiff cyrsiau newydd eu hychwanegu. Mae modd i chi ddod o hyd i'r cyrsiau yma isod. Mae disgwyl i chi sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â'r holl Hyfforddiant Gorfodol.
Os ydych chi'n cwblhau'r cyrsiau yma drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd hyn yn cael ei ddiweddaru yn awtomatig ar gyfer unrhyw Raglenni neu Achrediadau cysylltiedig. Dylech chi ganiatáu 24 awr er mwyn i'r newid yma gael ei nodi ar y system.