Mhwnc | Enw | Disgrifiad |
---|---|---|
URL Canllawiau Data Cymru | Mae Data Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti. Maen nhw wedi creu cyfres o ganllawiau manwl i gyd-fynd â'r hyfforddiant yma. Mae pob canllaw wedi’i llunio mewn ffordd sy’n cymryd yn ganiataol nad oes gan y darllenydd lawer o brofiad o gyflwyno ystadegau, ystadegau, arolygon neu drefnu a chynnal cylchoedd trafod ac felly’n ‘sylfaenol’ iawn o ran cynnwys ac arddull, a hynny’n fwriadol. Mae pob canllaw ar gael yn Gymraeg ac mae modd eu lawrlwytho am ddim.👉 Cliciwch yma er mwyn bwrw golwg ar y canllawiau a’u lawrlwytho. ![]() |
|
URL Cyrsiau Hyfforddi Data Cymru | Mae Data Cymru yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi yn rhan o'i raglen adeiladu capasiti. Caiff pob sesiwn ei chynnal ar-lein dan arweiniad arbenigwyr, felly byddwch chi’n dysgu gan bobl ddeallus iawn. Dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn rhan o’r sesiwn - tua 15 o bobl - felly bydd digon o gyfleoedd i drafod a rhyngweithio. Os
oes gyda chi ddiddordeb, mae modd i chi gadw lle drwy fynd i TicketSource. Mae modd i chi ddysgu rhagor am fanylion y
cwrs drwy glicio ar y ddolen ‘darllenwch ragor’. ![]() |
|
URL Gweminarau Hysbysu ac Ysbrydoli Data Cymru | Mae
Data Cymru hefyd yn cynnal gweminarau rheolaidd yn rhan o'i raglen adeiladu
capasiti. Mae dau brif fath o weminar: Mae modd i chi gofrestru ar gyfer gweminarau sydd i ddod drwy fynd i TicketSource - maen nhw'n ychwanegu sesiynau newydd bob mis. Os ydych chi’n dymuno cael y newyddion diweddaraf, mae modd i chi ymuno â rhestr bostio 'Hysbysu ac Ysbrydoli' er mwyn sicrhau eich bod chi’n clywed am y gweminarau, cyfleoedd hyfforddi ac achlysuron diweddaraf - cofrestrwch yma. Maen nhw'n croesawu syniadau newydd hefyd. Os ydych chi wedi defnyddio data mewn ffordd diddorol - neu hyd yn oes os nad oedd yn gwbl lwyddiannus - bydden nhw wrth eu bodd yn clywed gennych chi. Os ydych chi’n awyddus i ddysgu rhagor am bwnc penodol yn ystod sesiwn Data sy’n Ysbrydoli yn y dyfodol - mae croeso mawr i chi gysylltu â nhw. 👉 Cliciwch yma i ddysgu rhagor am achlysuron sydd ar y gweill ac i gofrestru. ![]() |