Bydd y modiwl yma yn cwmpasu ynganu, cyfarchion, cyflwyniadau, ac ymadroddion defnyddiol i’r gweithle. Bydd y modiwl yn cymryd tua 2 awr i chi gwblhau.
Mae'r cwrs yma yn orfodol i staff newydd i gyd sydd gyda lefel 0 yn sgiliau iaith Gymraeg. Os rdych chi'n rhugl yn y Gymraeg neu os oes sgiliau iaith Gymraeg ar lefel 1 neu'n uwch gyda chi yn barod, nid oes angen i chi gwblhau'r cwrs.
I gyd-fynd â’r
cwrs, rydyn ni’n cynnig sesiwn hyfforddiant dwy awr wyneb-yn-wyneb Sgiliau
Iaith Gymraeg Lefel 1 ar Microsoft Teams gyda’n Tiwtor Cymraeg. Dydy'r cwrs yma ddim yn orfodol ac dydy e ddim yn cymryd lle'r cwrs sgiliau iaith Lefel 1. Am ragor o wybodaeth neu
i gadw lle ar sesiwn wyneb-yn-wyneb, defnyddiwch y ddolen yma BITESIZE Cymraeg Gwaith (Lefel 1).
Rydyn ni’n annog staff i gymryd mantais o’r hyfforddiant pellach a chefnogaeth sydd ar gael. Rydyn ni’n darparu cyrsiau Cymraeg llawn ar lefel Mynediad a Sylfaen. Mae cyrsiau ar gael i staff RCT i gyd am ddim ac yn cael eu darparu gan ein tiwtor Cymraeg, gyda gwersi rhithiol ar Microsoft Teams yn oriau gwaith. Er mwyn cadw lle ar gwrs neu am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau a chefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â swyddogiaith@rctcbc.gov.uk.
Nodwch, unwaith i chi orffen y modiwl e-ddysgu, bydd rhaid i chi gwblhau’r ffurflen werthuso. Dim ond ar ôl hynny bydd statws y cwrs yn dangos 'wedi'i gwblhau' ar eich cofnod dysgu. Bydd eich tystysgrif ar gael ar ôl i chi orffen popeth, gan gynnwys y ffurflen werthuso.
I weld y dudalen hon yn Saesneg / To see this page in English - Cliciwch yma