• Perthyn – Dyheu i berthyn

    Ydych chi'n arddel hunaniaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws? Oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i gydweithwyr LHDTQ+? Hoffech chi fod yn rhan o rwydwaith staff cyffrous?

    Perthyn yw ein rhwydwaith staff LHDTQ+ sy'n agored i unrhyw aelod o staff sy'n gweithio i'r Cyngor, neu ar ei ran, ac sy'n arddel hunaniaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol, neu draws (dyma derm ymbarél sy'n cynnwys anneuaidd).

    Nod Perthyn yw;

    ·         Cefnogi ymrwymiad parhaus y Cyngor i greu a dathlu gweithle amrywiol a chynhwysol, lle mae modd i aelodau o staff LHDTQ+ fod yn weladwy heb ofni cael eu cosbi, ac yn rhydd rhag achosion o wahaniaethu neu ragfarn yn eu bywydau gwaith.

    ·         Sicrhau man diogel lle mae modd i bobl deimlo'n hyderus y byddan nhw ddim yn agored i wahaniaethu, i feirniadaeth, nac i aflonyddwch. Mae aelodaeth yn wirfoddol ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae'r grŵp yn derbyn efallai fydd aelodau ddim yn dymuno “dod allan” yn y gweithle ac rydyn ni'n parchu eu dymuniad i aros yn ddienw wrth gymryd rhan yn achlysuron y rhwydwaith.

    ·         Darparu man lle mae modd i staff gyfathrebu a bod yn gefn i'w gilydd, i rannu profiadau a gwybodaeth, gan wella'r ymdeimlad o berthyn yn y gweithle.

    ·         Cynghori'r Cyngor ar ddatblygu ei bolisïau amrywiaeth a chynhwysiant.

    ·         Bod yn wasanaeth cyfeirio ar gyfer staff a gwirfoddolwyr i roi gwybod am unrhyw achosion o wahaniaethu neu ragfarn y maen nhw wedi eu dioddef ac/neu wedi bod yn dyst iddyn nhw yn y gweithle. Bydd y rhwydwaith yn gweithio'n agos gyda'r Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant yn unol â'r Polisi Urddas yn y Gwaith, i fynd i'r afael â materion sydd wedi dod i sylw'r rhwydwaith neu ei aelodau.

    ·         Meithrin cysylltiadau â sefydliadau eraill LGBT+ i rannu arfer gorau, gwybodaeth, cymorth a chyfeillgarwch.

    Am ragor o wybodaeth, neu os ydych chi am ymuno, cysylltwch â perthyn@rctcbc.gov.uk.