• Cynghreiriaid – Torri Ffiniau

    Mae pobl yn cyflawni'n well pan fyddan nhw'n driw iddyn nhw eu hunain. Mae cynghreiriaid yn defnyddio eu swyddogaeth mewn sefydliad i greu diwylliant lle y mae modd i hyn ddigwydd.

     

    Egwyddorion ein Rhwydwaith yw:

    ·         Datblygu triniaeth deg

    ·         Sicrhau bod pawb yn cael cydraddoldeb llawn yn y gweithle

    ·         Herio diwylliannau lle nad oes modd i bobl fod yn driw iddyn nhw eu hunain

    ·         Bod yn eiriolwr diduedd dros gydweithwyr lle bo angen.

    Bod yn Gynghreiriad

    Does dim ffordd gywir neu anghywir o fod yn gynghreiriad. Y cyfan sydd ei angen yw bod eich credoau am bwysigrwydd tegwch a chydraddoldeb i'w gweld yn yr hyn rydych chi'n ei wneud a'i ddweud. Mae modd i chi ddangos eich cefnogaeth a bod yn gynghreiriad gweithredol drwy wneud rhai o'r pethau isod:

    ·         Bod yn weladwy – rhowch wybod i bobl eich bod chi'n gynghreiriad

    ·         Siarad yn gadarnhaol am y rhesymau pam eich bod chi'n ymrwymo i gydraddoldeb

    ·         Herio iaith ac ymddygiad annerbyniol yn y gweithle

    ·         Bod yn gefn i gydweithwyr nad oes modd iddyn nhw fod yn driw iddyn nhw eu hunain yn y gweithle, a dangos iddyn nhw sut i wneud hynny.

    ·         Rhoi cymorth i rwydweithiau staff eraill

    ·         Cefnogi a hyrwyddo ymgyrchoedd cydraddoldeb trwy godi ymwybyddiaeth

    ·         Annog pobl eraill i fod yn gynghreiriaid

    ·         Bod yn rhan o ddiwrnodau ymwybyddiaeth, boreau coffi ac achlysuron cydraddoldeb

    ·         Gwrando ar straeon a'u rhannu.

    Am ragor o wybodaeth, neu os ydych chi am ymuno, cysylltwch â cynghreiriaid@rctcbc.gov.uk.