• AIMS

    Trefn y Sesiwn Bydd awr gyntaf y gweminar dwy awr yma'n amlinellu'r materion cyfreithiol cyfredol sy'n wynebu therapyddion galwedigaethol ym myd gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys y gwasanaethau i oedolion a’r gwasanaethau i blant. Bydd manylion y gyfraith yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio achosion cyfreithiol ac achosion yr ombwdsmon, gan gyfeirio'n bennaf at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

    Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y sesiwn drosolwg er mwyn rhoi cyfle i'r sawl sy'n bresennol godi materion cyfredol ac i wneud ymholiadau.

    Approach. This is a two-hour webinar. It will consist, first of all, of an hour-long overview and outline of current legal issues facing OTs – in adult and children’s services - within social care in Wales. The law will be illustrated through legal and ombudsman cases, with reference primarily to the Social Services and Well-Being (Wales) Act 2014.

    This overview will then be followed by a question-and-answer session, to give those attending an opportunity to raise current issues and queries.

    Nodau ac amcanion:

    -         Edrych ar y gyfraith yng nghyd-destun asesiadau Therapyddion Galwedigaethol, a'r hyn maen nhw'n ei ddarparu, megis offer, addasiadau i'r cartref, a hefyd materion codi a chario ac asesu risg;

    -         Nodi'r ddeddfwriaethau allweddol sy'n sefyll ochr yn ochr â Deddf 2014, gan gynnwys Deddf Grantiau Tai, Deddf Adeiladu ac Adfywio 1996 a Deddf y GIG (Cymru) 2006;

    -         Trafod canllawiau Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gyfer Cymru a gafodd eu cyhoeddi'n ddiweddar (Gorffennaf 2021), sy'n cyfeirio at drefniadau cyfarpar cymunedol;

    -         Trafod materion cyfredol penodol gan gynnwys asesu o bell ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;

    -         Trafod sut y mae modd mynd i’r afael â phwysau, o ran amser ac adnoddau, yn gyfreithlon;

    -         Amlinellu achosion cyfreithiol diweddar ac achosion diweddar yr ombwdsmon sy’n ymwneud â Therapyddion Galwedigaethol a thynnu sylw at bwysigrwydd proses benderfynu Therapyddion Galwedigaethol;     

     

    Aims and objectives. These are as follows:

    -         Apply the law to OT assessment and provision such as equipment, home adaptations; also, manual handling issues and risk assessment;

    -         Note key legislation adjacent to the 2014 Act, including Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996 and NHS (Wales) Act 2006;

    -         Consider recently (July 2021) issued NHS Continuing Healthcare guidance for Wales – with reference to community equipment arrangements

    -         Consider current particular issues including remote assessment currently and in the future.

    -         Consider how pressures on time and resources, can be handled lawfully;

    -         Outline recent legal and ombudsman cases involving OTs and highlighting the importance of the OT decision-making process;

    • Occupational Therapy Legal Training - Training Session