• Mae'r cwrs yma'n galluogi cyfranogwyr i ystyried beth yw'r gost bersonol o weithio gyda phobl sydd wedi profi trawma arnyn nhw eu hunain, eu cydweithwyr a'r bobl maen nhw'n eu rheoli. Mae'n archwilio arwyddion a symptomau trawma dirprwyol a hefyd y ffactorau risg i'w lleihau a'r ffactorau amddiffynnol i'w cynyddu. Mae'n arbennig o berthnasol yn ystod Covid-19 pan fo lefelau trawma ar eu hanterth ac mae llawer o bobl yn gweithio mewn amgylchiadau hynod heriol.

    This course enables participants to consider the personal cost of working with traumatised people on themselves, their colleagues and the people they manage. It explores the signs and symptoms of vicarious trauma, risk factors to minimise and protective factors to maximise. It is particularly relevant during Covid-19 when levels of trauma are at a peak and many people are working in exceptionally challenging circumstances.

    Deilliannau Dysgu

    Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd modd i gyfranogwyr wneud y canlynol: 

    • Disgrifio beth yw trawma dirprwyol

    • Cydnabod prif nodweddion trawma dirprwyol

    •  Adnabod y ffactorau risg sy'n bodoli iddyn nhw eu hunain neu i eraill

    • Disgrifio sut i gynyddu ffactorau amddiffynnol

    • Rhoi cefnogaeth fwy effeithiol i rywun sy'n profi trawma dirprwyol

     Learning Outcomes

    By the end of this training participants will be able to:

    • Describe what vicarious trauma is

    • Recognise the main features of vicarious trauma

    • Identity risk factors for themselves or others

    • Describe how to increase protective factors

    • Support somebody more effectively who is experiencing vicarious trauma